St Lucia a Chymru yn wynebu materion amgylcheddol tebyg

Published: 5 May 2021

Llun o Bianca Gittens

Gan Bianca Gittens
Gwirfoddolwr, Cyfeillion y Ddaear Cymru

Daw Bianca, un o’n gwirfoddolwyr, o St Lucia, Ynys yn y Caribî. Yn y blog hwn, mae hi’n cymharu Cymru â’i mamwlad. Er eu bod ar ochrau hollol wahanol i'r byd, mae'r ddwy wlad fach hyn yn debyg mewn rhai ffyrdd ac yn wynebu rhai o'r un heriau.

Y Pitons yn St Lucia, safle Treftadaeth y Byd UNESCO..

Rwy’n byw yn St Lucia, sy'n un o gannoedd o ynysoedd folcanig ac ynysoedd bychain y Caribî.

Yn gynharach eleni, treuliais beth amser yng Nghymru, yn gwirfoddoli i Gyfeillion y Ddaear Cymru. Pan oeddwn yno, ni allwn helpu ond sylwi bod Cymru'n wynebu rhai o'r un materion â'm mamwlad, er fy mod ar ochr arall y byd.

Wrth gwrs, mae llawer o wahaniaethau, gan ddechrau gyda'r hinsawdd!

Yng Nghymru, mae'r tymheredd yn amrywio'n arw gyda'r tymhorau ac o ddydd i ddydd.  Mae St Lucia yn gynnes, yn heulog ac yn llaith drwy gydol y flwyddyn gyda thymheredd blynyddol cyfartalog o 26°C.

Mae tua 182,790 o bobl yn byw yn St Lucia, yn byw mewn ardal sydd tua’r un maint â dinas a sir Abertawe, ond mae’r topograffeg ychydig yn wahanol.

Mae gan y Caribî ddigonedd o fynyddoedd a rhaeadrau, ond mae hefyd riffiau cwrel, mynyddoedd, coedwigoedd trofanol, a llosgfynyddoedd.

Oeddech chi'n gwybod bod 17 math gwahanol o lystyfiant yn St Lucia, gan gynnwys coedwigoedd glaw trofannol, coedwigoedd sych arfordirol a mangrofau?

Amrywiaeth

Pan oeddwn yn byw yng Nghymru, cefais sioc o ddarganfod bod cymaint o flodau a ffawna brodorol y DU mewn perygl. Yn ôl ymchwil diweddar, o’r 6,500 o rywogaethau sydd i’w gweld yng Nghymru, roedd dros hanner dan fygythiad difodiant, yn bennaf oherwydd ffermio a newid yn yr hinsawdd.

Oherwydd ei leoliad anghysbell a'i amodau amgylcheddol heriol, nid yw bywyd gwyllt yn St Lucia mor amrywiol ond mae'n wynebu heriau tebyg.

Mae gan St Lucia tua 200 o rywogaethau endemig gan gynnwys Parot Amason St. Lucia, Madfall Cynffon Chwip St. Lucia a'r neidr fwyaf prin yn y byd, Rasiwr St. Lucia.

Parot Amason St. Lucia

 

Madfall Cynffon Chwip St. Lucia

 

 

Rasiwr St. Lucia

 

Fel y DU, mae ein bywyd gwyllt dan fygythiad datblygiad economaidd sydd wedi rhoi pwysau cynyddol ar ecosystemau gwerthfawr.

Pedwar bygythiad amgylcheddol mawr sy'n wynebu St. Lucia yw newid yn yr hinsawdd, datblygiad ardaloedd arfordirol, llygredd a rhywogaethau goresgynnol.

 

Newid yn yr Hinsawdd

Pan oeddwn i yn y DU, roeddwn i'n byw yng nghymoedd De Cymru am gyfnod, felly dwi wedi gweld sut mae llifogydd a thywydd eithafol yn dinistrio cymunedau yno ac mewn mannau eraill ledled Cymru.

Ers y 1960au, mae'r tymheredd yn St. Lucia wedi cynyddu tua 0.16°C fesul degawd. Rhagwelir y bydd yr hinsawdd yn gynhesach o thua 1.8°C erbyn y 2050au a 3°C erbyn y 2080au. Disgwylir i dymheredd arwyneb y môr gynyddu 0.8°C – 3°C erbyn 2080, gydag effeithiau niweidiol posibl ar riffiau cwrel yr ynys.

 

Mae gwyddonwyr hinsawdd yn rhagweld y bydd cynnydd mewn lefelau'r môr, tywydd eithafol, patrymau glaw newidiol, a bydd difwyniad halwynog yn bygwth bywyd gwyllt a'r amgylchedd yn gynyddol.

Bydd mwy o sychderau hefyd, oherwydd rhagwelir y bydd cyfanswm y glawiad blynyddol yn gostwng hyd at 32% erbyn diwedd y ganrif. Rhagwelir y bydd corwyntoedd a stormydd, er nad oes disgwyl iddynt ddigwydd yn amlach, yn fwy dinistriol. 

Mae Llywodraeth St. Lucia wedi ymrwymo i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Mae'n cymryd rôl ragweithiol mewn polisi datblygu a chynllunio strategol ar y lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a byd-eang, gan wneud St. Lucia yn arloeswr newid yn yr hinsawdd ymhlith ynysoedd Caribïaidd eraill sy'n agored i niwed. Fodd bynnag, mae rhai cynlluniau ymaddasu wedi tynnu sylw at y diffyg cyllid ar gyfer gorfodi effeithiol, anallu ecosystemau arfordirol i addasu i godiad yn lefel y môr a'r diffyg technoleg fforddiadwy sydd ei hangen i ddiogelu'r arfordir rhag digwyddiadau eithafol.

.

 

Datblygiad arfordirol

Mae sector twristiaeth St Lucia, a fydd yn ehangu o fewn yr ychydig flynyddoedd nesaf, eisoes yn cael effaith negyddol ar yr amgylchedd.

Mae'r rhan fwyaf o'n datblygiadau mewn gwestai wedi'u lleoli ar hyd yr arfordir.

Mae twristiaeth yn arwain at fwy o lygredd ac mae hefyd yn effeithio ar ein ffawna a fflora. Mae deifio, snorcelio a gweithgareddau cychod yn niweidio ein riffiau cwrel ac mae'r galw am fwyd môr yn aml yn fwy na'r terfynau dal.

Mae datgoedwigo arfordirol yn arwain at erydu, ansefydlogrwydd llethrau, gwaddodi ac addasu a datgoedwigo cynefinoedd morol a daearol. Mae rhai cyfleusterau twristiaeth hefyd yn cael eu datblygu mewn cynefinoedd fel gwlyptiroedd, eco-systemau sensitif niweidiol. Gall hyd yn oed y planhigion a ddefnyddir i wneud crefftau llaw a chofroddion fod dan fygythiad.

Mae ein llywodraeth wedi ymateb gydag ystod eang o fentrau polisi ond a ydynt yn ddigon i hyrwyddo cynaliadwyedd hirdymor?

Yn anffodus, mae dulliau priodol a chynaliadwy o reoli tir a dŵr a chadwraeth bioamrywiaeth yn aml wedi aros ar wahân i raglenni a chyllidebau traddodiadol y llywodraeth, felly mae cynllunio defnydd tir effeithiol yn dal i fod yn faes sy'n peri pryder.

 

Llygredd

Mae'r cyfnodau clo dros y flwyddyn ddiwethaf wedi arwain at gynnydd mewn llygredd sbwriel a thipio anghyfreithlon yng Nghymru. Mae llygredd tir a dŵr hefyd yn broblem fawr i St. Lucia. Yn aml, nid yw ffermydd da byw, yn enwedig hwsmonaeth moch, yn cael eu monitro'n dda, ac maent yn halogi systemau afonydd. Yn y brifddinas Castries, mae un system garthffosiaeth sy'n gwasanaethu’r ddinas gyfan, a dim ond triniaeth sylfaenol amrwd sy'n cael ei chynnal cyn gwaredu drwy allfa yn yr harbwr, gan ddirywio ansawdd dŵr arfordirol.

Yn Lucia, fel yng Nghymru, mae llygredd sbwriel ar gynnydd. Datgelodd astudiaeth wastraff yn 2018 mai gwastraff organig yw'r ganran fwyaf (53%) o wastraff a waredwyd yn St. Lucia, ac yna plastigau (20%), papur (12%), tecstilau (12%), gwydr (4%) a metel (3%).

Yng Nghymru mae ailgylchu wedi dod yn norm. Yn ôl canfyddiad data gan WRAP, mae 92% o bobl sy'n byw yng Nghymru bellach yn ailgylchu gartref yn rheolaidd, gyda 55% yn ailgylchu mwy nag a wnaethant 12 mis yn ôl. Mae llwyddiant Cymru o ran ailgylchu o ganlyniad i awdurdodau lleol sy'n casglu gwastraff ac yn trefnu iddo gael ei ailgylchu.

Nid oes system ailgylchu swyddogol yn St. Lucia, ac mae hyn wedi arwain at 21 o fentrau ailgylchu preifat yn cystadlu am fusnes. Mae dibyniaeth fawr yr ynys ar y sector preifat wedi arwain at gostau llafur, cludo a chargo nwyddau uchel yn ogystal â gwerthoedd isel y rhan fwyaf o wastraff ailgylchadwy (mae eitemau a ailgylchir yn cynnwys plastig, papur, cardbord, gwydr, metel, olew a batris).

Mae Awdurdod Rheoli Gwastraff Solet St. Lucia wedi gweithredu rhaglenni gwastraff solet, ond ar hyn o bryd mae'r rhaglenni hyn yn casglu gwastraff ac yn ei waredu mewn safleoedd tirlenwi, yn hytrach na'i ailgylchu.

Mae llygredd aer hefyd yn broblem gynyddol yn St. Lucia, wrth i nifer y ceir a cherbydau eraill gynyddu. Y sectorau ynni a thrafnidiaeth yw'r ddwy ffynhonnell fwyaf o nwyon tŷ gwydr. Er bod y Llywodraeth wedi cyflwyno sychwyr solar a threulwyr bio-nwy i annog y defnydd o ynni adnewyddadwy fel dewis amgen ar gyfer tanwydd coginio, nid oes safonau allyriadau a chanllawiau ar gyfer allyriadau gwacáu na safonau ansawdd aer dan do.

Rhywogaethau goresgynnol

Bu rhywogaethau goresgynnol yn her i St. Lucia o mor gynnar â'r 1300au pan oedd yr Amerindiaid brodorol yn byw yn yr ynys, gan gyflwyno anifeiliaid fel cŵn, Agwtïod, ac Oposymiaid y De. Dilynodd cyflwyniadau anfwriadol eraill yn fuan yn ystod cyfnod y gwladychu Ewropeaidd lle cyflwynwyd Llygoden fawr y tŷ, Llygoden fawr Norwy a Llygoden y tŷ.

 

Deddf Diogelu Bywyd Gwyllt (1980) yw'r polisi mawr olaf i fynd i'r afael yn sylweddol â rheoli bywyd gwyllt yn St. Lucia. Yr ymdrechion parhaus a wnaed gan Adran Goedwigaeth Llywodraeth St. Lucia, ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol St. Lucia fu'r sbardun y tu ôl i gadwraeth bywyd gwyllt St. Lucia.

 

A yw Cymru'n wahanol?

Er bod Cymru'n cael ei chydnabod fel cenedl ddatblygedig, mae'r wlad wir yn profi'r un materion amgylcheddol â St. Lucia, a’r newid yn yr hinsawdd yw'r mater pwysicaf.

Mae polisi'n allweddol i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd yn St. Lucia ond y gwahaniaeth rhwng yr ynys fach hon sy'n datblygu a Chymru yw'r diffyg adnoddau ariannol digonol i roi cynlluniau gweithredu dros yr hinsawdd ar waith.

Er bod cymaint mwy i'w wneud o hyd, mae Cymru'n bwerdy ar gyfer ymgyrchoedd amgylcheddol. Mae'n dangos yr hyn y gall gwledydd bach ei gyflawni pan fydd yr ewyllys a'r adnoddau yno! Mae hyn wedi cyfrannu at nifer o lwyddiannau fel gwaharddiad cenedlaethol ar rai plastigau untro, cyflwyno siopau dim gwastraff, cynnydd mewn cynlluniau benthyca ac ailddefnyddio i gynyddu cyfraddau ailgylchu, a'r gwaharddiad diweddar ar losgyddion newydd gan Lywodraeth Cymru.

Mae ynysoedd datblygol eraill eisoes wedi dilyn yr un llwybr wrth ymladd yn weithredol dros gynaliadwyedd, fel Tobago a'u menter Dim Gwastraff i Safleoedd Tirlenwi parhaus. Gobeithiwn y bydd Cymru'n parhau i osod esiampl i wledydd eraill, nid St. Lucia yn unig.

 

Share this page