Newid hinsawdd yw’r her fwyaf sy’n wynebu’r byd yn yr 21ain ganrif. Mae’n rhaid i ni weithredu’n syth i fynd i’r afael ag ef, neu wynebu effeithiau amgylcheddol, economaidd, diwylliannol a chymdeithasol a fydd yn effeithio cenedlaethau nawr ac yn y dyfodol. Yn ogystal â hyn, gall effeithio pobl mewn tlodi yn anghymesur yng Nghymru a ledled y byd.

Newidiodd Cymru y byd yn y gorffennol. Gallwn wneud cyfraniad mawr i newid y dyfodol. Glo Cymru roddodd y grym i’r chwyldro diwylliannol. Nawr gallwn arwain y chwyldro ynni adnewyddadwy, dangos y ffordd i fynd i’r afael â newid hinsawdd, ac elwa o’r economi werdd fyd-eang sy’n cynyddu’n gyflym.

Rydym wedi cael ymroddiad gwleidyddol cryf i dorri ein allyriadau nwy tŷ gwydr yng Nghymru ers datganoli. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno targedau polisi blynyddol i dorri 3% mewn meysydd cymhwysedd datganoledig bob blwyddyn o 2011; torri 40% mewn ymroddiad trawsbleidiol i dorri ein holl allyriadau erbyn 2020; ac yn fwyaf diweddar fframwaith statudol ar gyfer gosod cyllidebau a thargedau carbon yn y Ddeddf Amgylchedd.

Ein hymgyrchoedd

Ymgyrchodd Cyfeillion y Ddaear Cymru fel rhan o Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru am gytundeb hinsawdd teg yn nhrafodaethau COP21 Paris fis Rhagfyr 2015, ac i Gymru chwarae ei chyfran deg mewn torri allyriadau. Ewch i wefan Atal Anrhefn Hinsawdd Cymru am ragor o wybodaeth am yr ymgyrch hon.

Bu i ni hefyd ymgyrchu am fframwaith statudol ar gyfer trin newid hinsawdd yng Nghymru, a gyflwynwyd yn Rhan 2 o’r Ddeddf Amgylchedd a basiwyd gan y Cynulliad fis Chwefror 2016. Rydym yn falch y byddwn o’r diwedd â chyllidebau carbon i Gymru a thargedau ar gyfer 2020, 2030, 2040 a 2050. Bydd y rhain yn mesur ein defnydd o nwyddau a gwasanaethau yng Nghymru. Gwneir y cyfeiriad hwnnw yn unol â chytundebau rhyngwladol i gyfyngu tymereddau byd-eang. Credwn fod targed cyffredinol 2050 sef gostyngiad “o leiaf 80%” yn rhy isel ac nid yw’n adlewyrchu gwyddoniaeth ddiweddaraf ein cyfrifoldebau byd-eang.

Rydym yn awr yn galw i’r cyllidebau carbon fod yn unol â’n cyfrifoldebau byd-eang a Chytundeb Paris.

Effeithiau newid hinsawdd

Mae gweithgarwch dynol yn newid cyfansoddiad cemegol ein hatmosffer a’r moroedd. Mae perygl mawr y gall newid hinsawdd arwain at newidiadau sylweddol ac anghildroadwy yng nghylchoedd naturiol y laned. Mae prisiau bwyd byd-eang yn cynyddu, yn rhannol oherwydd bod yr hinsawdd byd-eang newidiol yn gwaethygu sychder a chynaeafau gwael mewn mannau sy’n cynhyrchu bwyd. Mae’r hinsawdd yn newid yma yng Nghymru, a theimlir ei heffeithiau yn barod. Mae chwarter yn llai o law haf nag oedd 100 mlynedd yn ôl, gyda gostyngiad pellach o 15% yn hynod debygol erbyn canol y ganrif. Mae tymereddau cyfartalog yn barod yn fwy na 1°C yn uwch yma na 100 mlynedd yn ôl. Mae disgwyl y bydd cynnydd pellach o oddeutu 1.5°C erbyn canol y ganrif.

Mae’r tymereddau cynyddol hyn yn newid cynefinoedd yng Nghymru. Maent yn effeithio ar blanhigion a bywyd gwyllt. Mae cynnydd yn lefelau’r môr, ynghyd â stormydd amlach a dwysedd uwch yn cynyddu y perygl o lifogydd. Bydd mwy o dywydd eithafol yng Nghymru, gan gostio arian i ni ac effeithio ar ein hiechyd a’n bywoliaeth.

Share this page