Polisi Trafnidiaeth Cymru sy'n addas i'r Argyfwng Hinsawdd

Cyhoeddwyd ar 22 Gorffennaf 2020, ysgrifennwyd y papur hwn gan Trafnidiaeth er Bywyd o Safon ac fe'i cefnogir gan Cyfeillion y Ddaear.

Mae’n dadlau bod angen i wneuthurwyr polisïau Cymru feddwl o'r newydd am bolisïau trafnidiaeth yng ngoleuni'r argyfwng hinsawdd. Mae newidiadau technolegol yn angenrheidiol ond nid ydynt yn ddigon i gyflawni'r lleihad sylweddol, cyflym yn allyriadau carbon sydd ei angen arnom. Mae gwyddonwyr hinsawdd yn rhybuddio y bydd rhaid i ni hefyd wneud newidiadau sylweddol i'n hymddygiad teithio, gan yrru a hedfan yn llai aml. Ac rydym wedi'i gadael hi mor hwyr nes na fydd newidiadau cyson, cynyddol i'n teithio yn ddigon. Yng nghyd-destun y polisi yng Nghymru, mae'n amlwg na ellir cyflawni'r nodau llesiant sydd wedi'u sefydlu yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015)[i] heb fynd i'r afael â thrafnidiaeth fel y sector sy'n perfformio waelaf o ran lleihau allyriadau sy'n niweidio'r hinsawdd.

Share this page