Pam y dylai pobl yng Nghymru gefnogi gwaharddiad ar ffracio

Published: 20 Apr 2018

Gan Dorothy Kelk, Cyfeillion y Ddaear Canolbarth Sir Gaerhirfryn

Mae gan Dorothy neges bersonol i bobl Cymru: peidiwch â chymryd y risg o gael eich tynnu i mewn i ‘frwydrau cyfreithiol hirfaith’ – llofnodwch ein deiseb i sicrhau na chaiff ffracio fyth ddigwydd yng Nghymru.

Os ydych yn byw yng Nghymru, efallai eich bod yn meddwl nad yw ffracio yn broblem. Os na weithredwch nawr i gefnogi gwaharddiad, efallai y byddwch chi’n sefyll wrth gatiau safle ffracio ymhen hir a hwyr.

 

Mae’n fis Ebrill 2018, ac ar ymyl ffordd ger Blackpool yn Sir Gaerhirfryn mae trigolion lleol ac ymgyrchwyr yn ymgynnull yn heddychlon bob dydd wrth gatiau safle ffracio Cuadrilla.  Dechreuodd y gwaith ar safle Preston New Road ym mis Ionawr 2017, wedi i’r Llywodraeth wrthdroi penderfyniad Cyngor Sir Gaerhirfryn i wrthod safle ffracio aml-ffynnon.

 

Mae’r gwrthwynebiad dan arweiniad y gymuned wedi bod yn gryf. Boed haul neu law, mae teuluoedd, cynghorwyr, undebau llafur, busnesau, myfyrwyr a grwpiau ffydd wedi dod allan i gefnogi’r gymuned leol, ac i alw am weithredu ar y newid yn yr hinsawdd.  

 

Hyd yma, nid yw pethau wedi bod yn hawdd i Cuadrilla. Mae eu hamserlen waith wedi llithro, fwy na thebyg oherwydd y tywydd, problemau technegol a gweithredu uniongyrchol heddychlon. Mae cwestiwn wedi codi hefyd ynghylch gallu’r cwmnïau ffracio i weithredu yn ôl yr amodau cynllunio ac amodau trwydded. Mae’r cwmni bellach ar fersiwn un ar ddeg o’i gynllun traffig, wrth i drwyddedau amgylcheddol gael eu newid.  

 

I lawr y ffordd, ym mhentref bach Roseacre, mae’r trigolion yn paratoi am ymchwiliad cyhoeddus arall gyda Cuadrilla y gwanwyn hwn. Wedi i’r cais gael ei wrthod gan y cynghorau plwyf, dosbarth a sir, a’r arolygydd cynllunio yn yr apêl ddilynol, mae’r Llywodraeth wedi rhoi cyfle arall i Cuadrilla gael cymeradwyaeth i’w cais ffracio.  

 

'Mae’r gwrthwynebiad lleol i ffracio cyn gryfed ag erioed'

Er gwaethaf brwdfrydedd y Llywodraeth y Du, mae’r gwrthwynebiad lleol i ffracio cyn gryfed ag erioed. Wrth i Cuadrilla baratoi i ddrilio yn Preston New Road y llynedd, dywedodd dwy ran o dair o drigolion Sir Gaerhirfryn eu bod yn erbyn ffracio. Ac wrth iddynt nesáu at ddiwedd y cam drilio, a thua dechrau’r cam ffracio, mae’r trigolion yn cychwyn ar dri mis o weithredu uniongyrchol heddychlon.  

 

Ar hyd a lled Lloegr, mae cwmnïau wedi cael eu dal yn ôl o ganlyniad i ymgyrchoedd dan arweiniad y gymuned yn erbyn ffracio. Mae Third Energy, a oedd yn bwriadu dechrau ffracio yn Ryedale erbyn dechrau’r flwyddyn, nawr yn destun ymchwiliad gan y Llywodraeth ynghylch eu cadernid ariannol.  

 

Yn y cyfamser, mae’r cwmni petrogemegion Ineos wedi cael sawl cais cynllunio wedi’i wrthod gan gynghorau yn Swydd Efrog a Chanolbarth Lloegr, ac mae cynlluniau Igas ar gyfer profion nwy siâl yn Swydd Gaer wedi cael eu gwrthod.

 

 

Beth mae hyn oll yn ei olygu i Gymru?

Mae’r moratoriwm yn gwarchod cymunedau a’r amgylchedd rhag ffracio am y tro. Fodd bynnag, oni bai y ceir gwaharddiad llawn, fel y mae profiad Lloegr yn ei ddangos, mae’n bosib y bydd cymunedau yng Nghymru’n cael eu tynnu i mewn i frwydrau hirfaith ac yn cael eu gadael heb ddewis ond cymryd camau uniongyrchol heddychlon i atal y diwydiant. Mae’r Alban ac Iwerddon eisoes wedi arwain y ffordd drwy wahardd ffracio. Tybed a wnaiff Cymru ddilyn eu hesiampl?  

 

Un o’r themâu cryfaf sy’n deillio o’r mudiad gwrth-ffracio yn y DU yw’r ymdeimlad o undod ymhlith cymunedau sydd yn erbyn y tanwydd ffosil dieisiau hwn. Mae Preston New Road yn ddiolchgar am y gefnogaeth gan grwpiau gwrth-ffracio o Gymru.  

 

Wrth i’r pwysau gynyddu ar y Llywodraeth Cymru i wahardd ffracio, mae trigolion Sir Gaerhirfryn yn dangos yr un gefnogaeth. Ddim yma, ddim yn unman.  

 

Llofnodwch ein deiseb – cefnogwch ein gwaharddiad #GwaharddFfracioNawr #BanFrackingNow

 

Share this page