Mae diwydiannau Cymru yn allweddol i ennill y ras sero net

Published: 9 Feb 2021

Llun o Joe Cooke

Gan Joe Cooke
Gwirfoddolwr Cyfeillion y Ddaear Cymru

Mae cyflymder newid yn yr hinsawdd yn cynyddu a rhaid i Gymru, fel gwledydd eraill, gynyddu lefel ei huchelgais. Mae'r gwirfoddolwr Joe Cooke yn edrych ar lwybr Cymru i sero net a beth sydd angen ei wneud i gyrraedd y llinell derfyn cyn gynted â phosib.

‘Mae angen i ni gyflymu pethau’

Yn 2015 llofnododd y DU gytundeb Paris, ac, wrth wneud hynny, ymrwymodd i wneud pob ymdrech i gyfyngu cynhesu byd-eang i 1.5C erbyn 2100. Mae'r Pwyllgor Rhyngwladol ar Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) yn dweud bod yn rhaid i allyriadau nwyon tŷ gwydr byd-eang gyrraedd sero net erbyn 2050 er mwyn i hyn ddigwydd.

Sero net yw pan fydd yr allyriadau sy’n cael eu rhyddhau gennym i'r atmosffer yr un fath â'r allyriadau rydyn ni’n eu tynnu ohono.

Mae'r DU wedi cytuno i’r targed sero net 2050, a argymhellwyd gan Bwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd (UKCCC), ond nid yw'n ddigon buan.

Yn ôl yr IPCC, mae newid yn yr hinsawdd yn gwaethygu. Mae un cyn-brif wyddonydd hyd yn oed wedi dweud ei fod yn digwydd yn gyflymach na'r disgwyl.  Rydym wedi gweld effaith ddinistriol tywydd eithafol ar gymunedau yma yn ne Cymru. Mae arolwg barn diweddar yn dangos bod pobl am i'r DU gymryd rôl arweiniol wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Rydym mewn argyfwng hinsawdd, felly mae angen i ni gyflymu pethau, a gweithredu ar frys i gyrraedd sero net cyn gynted ag y gallwn.

 

‘Amser ar gyfer sero net’

Ym mis Rhagfyr 2020, croesawodd Llywodraeth Cymru argymhelliad CCC i osod targed sero 2050 ar gyfer Cymru.

Rydym wedi dechrau'n wych. Yn 2019, targed 2020 Llywodraeth Cymru oedd gostyngiad o 27% mewn allyriadau o'i gymharu â lefelau 2010. Fodd bynnag, yn 2018 fe wnaethom ryddhau 38.9 miliwn tunnell cyfwerth â CO2, 30.9% yn llai na llinell sylfaen 2010. Rydym ar y blaen i'r sefyllfa lle mae angen i ni fod, felly mae'n amser da nawr i gyflwyno targed sero net.

 

 

Mae'n wych clywed bod y sector cyhoeddus yng Nghymru yn anelu at fod yn sero net erbyn 2030 ond dim ond am 2% o allyriadau Cymru mae'r sector cyhoeddus yn gyfrifol. Mae amaethyddiaeth, er enghraifft, yn cyfrif am 14% ond mae lleihau allyriadau yn y sector hwn yn her.

Mae llwybr cliriach i sero net ar gyfer sectorau eraill fel cyflenwyr ynni a diwydiant (ar gyfer archfarchnadoedd, er enghraifft, byddai camau syml hyd yn oed fel rhoi drysau ar oergelloedd yn helpu). Nawr mae'n rhaid i fusnesau nodi sut y byddant yn cymryd y camau nesaf i gyrraedd sero net. 

 

Cyflenwyr ynni

Oeddech chi'n gwybod mai dim ond un cwmni cyflenwi pŵer oedd yn gyfrifol am 16% o allyriadau Cymru yn 2017? Nod y cwmni hwn, o leiaf, yw bod yn sero net yn fyd-eang erbyn 2040 .

Yng Nghymru, daw cyfran fawr o'n hallyriadau o ychydig o ‘darddleoedd’. Mae rhai llygrwyr mawr yn gyfrifol am gyfran anghymesur o fawr o allyriadau nwyon tŷ gwydr niweidiol, gan arwain at chwalu'r hinsawdd, yr argyfwng natur, a bygwth dyfodol y genhedlaeth nesaf. Mae llygredd aer hefyd yn niweidio ein hiechyd, gan gynyddu ein risg o glefydau'r ysgyfaint.

Mae gweithredoedd nifer fach o gwmnïau'n effeithio ar fywydau pob un ohonom, felly mae gennym yr hawl i wybod beth maen nhw’n ei wneud i leihau eu hallyriadau.

Mae angen i'r cwmnïau hyn, os nad ydynt eisoes yn gwneud hynny, fod yn gweithio gyda'r llywodraeth a'r cymunedau lleol sy’n cael eu heffeithio i gymryd y camau angenrheidiol a dylid cyhoeddi'r wybodaeth hon yn gyhoeddus.

Mae gweithredu ar allyriadau hinsawdd o fudd ariannol, yn creu mwy o swyddi a bydd yn helpu Cymru i gyrraedd ein targed sero net yn gyflymach.

 

Diwydiant dur

Mae allyriadau diwydiannol yng Nghymru yn cael eu dominyddu gan gynhyrchu haearn a dur a choethi petrolewm.

Tata Steel, sy'n berchen ar y rhan fwyaf o'r gweithfeydd dur yng Nghymru, oedd yn gyfrifol am 57.69% o allyriadau CO2 diwydiannol yng Nghymru yn 2018. Pe bai'r cwmni hwn yn cyrraedd sero net yn gyflym, dychmygwch yr effaith y gallai un busnes ei chael ar allyriadau Cymru?

Mae effaith economaidd a chymdeithasol y diwydiant dur yng Nghymru yn bwysig. Yn wir, mae Tata Steel yn cyflogi dros 8,000 o bobl ledled y DU. Felly, nid yw cau'r gweithfeydd hyn yng Nghymru a mynd â nhw i rywle arall yn rhywbeth y dylid ei ystyried. Ond nid yw hynny'n golygu nad oes angen iddynt addasu i'r argyfwng hinsawdd. Mae ymchwil yn awgrymu y bydd y broses ddatgarboneiddio yn creu mwy o swyddi.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Clwstwr Diwydiannol De Cymru, grŵp ymchwil sy'n gyfrifol am greu diwydiant cynaliadwy yn Ne Cymru.

Mae Tata Steel, fel aelod blaenllaw o Glwstwr Diwydiannol De Cymru, wedi helpu i lunio'r cynlluniau a fydd yn gweld clwstwr diwydiannol blaenllaw yn cael ei greu yn ne Cymru.

Mae grantiau ymchwil ac addysg y DU wedi helpu i ariannu'r ymchwil hwn ac mae'r cynlluniau'n helaeth. Mae'n wych gweld y math hwn o arloesi ac edrychwn ymlaen at weld y cynlluniau hyn yn cael eu rhoi ar waith. Hoffem weld y grŵp yn ymrwymo i gyflwyno targed sero net 2050.

Er bod buddsoddiad sylweddol mewn technolegau newydd fel dal carbon, mae'n werth sôn eu bod yn ddrud ac nad ydynt wedi'u profi eto. Mae angen buddsoddiad a chynnydd pellach cyn y gellir eu hystyried o ddifrif fel ateb.

 

Cynllun masnachu allyriadau

Y brif fenter sy'n annog busnesau i leihau eu hallyriadau yw Cynllun Masnachu Allyriadau'r Undeb Ewropeaidd.

Gadawodd Prydain yr UE ym mis Ionawr 2021, felly nid yw bellach yn rhan o gynllun masnachu allyriadau'r UE.

Mae'r cynllun yn gweithio drwy roi targed neu ddyraniad am ddim i fusnesau ar gyfer faint o CO2 y dylent ei ryddhau mewn blwyddyn. Os ydynt yn mynd dros y targed, maen nhw’n cael eu gorfodi i dalu dirwyon neu i brynu allyriadau gan gwmnïau eraill sydd wedi tan-allyrru. Yn raddol, mae'r targedau neu ddyraniadau am ddim yn gostwng ac mae allyriadau cyffredinol yn gostwng.

Roedd y cynllun yn un o'r prif resymau pam y lleihaodd y defnydd o lo yn Ewrop, gan arwain at leihad mewn allyriadau carbon mewn llawer o wledydd yn Ewrop gan gynnwys y DU.

 

Cynllun y DU

Ym mis Ionawr 2021, mae'r DU yn disodli Cynllun Masnachu Allyriadau'r UE â'i chynllun tebyg ei hun ond mae angen cwblhau'r manylion o hyd.

Bydd cynllun masnachu allyriadau'r DU yn rhoi cyfle i ni wneud newidiadau a fydd yn annog cynnydd cyflymach. Er enghraifft, ni fu gostyngiad mewn allyriadau hedfan ers dechrau'r cynllun.

Er mwyn i gynnydd gael ei wneud, mae angen addasu dyraniadau am ddim ac mae angen ei ehangu i gynnwys mwy o deithiau hedfan sy'n mynd i mewn ac allan o'r DU.

Ar hyn o bryd, dim ond teithiau hedfan rhwng meysydd awyr yn yr ardal economaidd Ewropeaidd sy’n cael eu cwmpasu gan gynllun masnachu'r UE, ac mae'r DU yn bwriadu parhau i wneud hynny.

Mae angen cyhoeddi manylion ETS newydd y DU.

Er enghraifft, dylai gwybodaeth fel faint o garbon deuocsid mae pob tarddle wedi'i ryddhau a p’un a yw tarddleoedd wedi cyrraedd eu targedau allyriadau fod ar gael.

 

Beth hoffem ei weld...

Un peth yr hoffem ei weld yw bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gyhoeddi'r data presennol ar gyfer tarddleoedd yng Nghymru bob blwyddyn. Mae eisoes ar gael ar lefel y DU ond byddai'n ddefnyddiol pe bai'n cael ei rhannu'n rhestr benodol i Gymru bob blwyddyn fel y gallwn i gyd weld eu cynnydd ac amlygu lle mae angen cymryd mwy o gamau.

 

10 allyrrwr Carbon Deuocsid mwyaf Cymru 2018 (wedi'u cymryd o wybodaeth tarddleoedd NAEI)

Mae'r data hyn, sydd eisoes wedi'u cyhoeddi ar lefel y DU, yn cynnwys dwsinau a dwsinau o darddleoedd yng Nghymru, yn amrywio o weithfeydd pŵer i weithgynhyrchwyr sment ac archfarchnadoedd, ond nid yw'n cynnwys data ETS ac mae’n cynnwys rhai gwahaniaethau o'r data sydd wedi’u dyfynnu yn yr ETS.  

 

Y dyfodol

Mae Cynllun Masnachu Allyriadau'r UE yn gymhleth ac mae'r union effaith y mae wedi'i chael ar allyriadau yn destun dadl eang. Gadewch i ni obeithio y bydd cynllun masnachu'r DU yn arwain at y gostyngiadau sydd eu hangen i leihau allyriadau.

Mae hwn yn gyfle i gynyddu cwmpas cynllun masnachu allyriadau'r DU i gynnwys sectorau eraill, er enghraifft llosgyddion gwastraff sy'n cynhyrchu llawer iawn o allyriadau.

Byddai cynllun treth carbon yn cael effaith fwy eithafol ar allyriadau yn y DU ond byddai'n costio mwy i fusnesau. Beth bynnag fo'r cynllun, rhaid i ni sicrhau bod cynnydd yn yr hinsawdd yn cael ei flaenoriaethu dros elw busnesau.

Mae angen i'r llygrwyr dalu os ydym am fynd i'r afael â'r argyfwng yn yr hinsawdd.

 

Share this page