Ie i ddyfodol diwastraff erbyn 2030 ond na i losgi

Published: 6 Mar 2021

Llun o Chamodi Peiris

Gan Chamodi Peiris
Gwirfoddolwr Cyfeillion y Ddaear Cymru

Ar drothwy Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei strategaeth dim gwastraff, mae gwirfoddolwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, Chamodi Peiris, yn edrych ar wahanol fentrau diwastraff ledled y byd. Mae'n dadlau bod angen dod â tharged diwastraff Cymru ar gyfer 2050 ymlaen i 2030 ac mae’n rhybuddio na ddylai Cymru ganiatáu adeiladu unrhyw losgyddion newydd.

 

Ar drothwy Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei strategaeth dim gwastraff, mae gwirfoddolwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, Chamodi Peiris, yn edrych ar wahanol fentrau diwastraff ledled y byd. Mae'n dadlau bod angen dod â tharged diwastraff Cymru ar gyfer 2050 ymlaen i 2030 ac mae’n rhybuddio na ddylai Cymru ganiatáu adeiladu unrhyw losgyddion newydd.

 

 

 

Mae Llywodraeth Cymru ar fin cyhoeddi ei strategaeth dim gwastraff, Mwy nag Ailgylchu, strategaeth i wireddu'r economi gylchol yng Nghymru.

 

Er y byddai rhai yn anghytuno bod yn rhaid i Gymru ddod yn genedl ddiwastraff gydag economi gylchol ffyniannus, mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn cyflwyno achos argyhoeddiadol dros symud targed dim gwastraff 2050 ymlaen i 2030 (darllenwch y blog).

 

Yn y blog hwn, byddaf yn dangos pam mae cael targed uchelgeisiol mor bwysig, ond yn gyntaf gadewch i ni edrych ar y termau, 'dim gwastraff' ac ‘economi gylchol’. Beth maen nhw'n ei olygu?

 

Beth yw dim gwastraff?

Mae dim gwastraff yn golygu hynny’n union, sef pan nad oes unrhyw beth yn mynd i safleoedd tirlenwi neu losgi. Mae hyn yn golygu, o'ch cwpan goffi tecawê ddyddiol i'r nifer cynyddol o eitemau trydan rydych chi’n eu defnyddio gartref neu yn y gwaith, ni fydd unrhyw beth rydych chi’n ei ddefnyddio yn cael ei daflu i ffwrdd. Yn hytrach na hynny, bydd unrhyw beth nad ydych ei eisiau neu nad ydych chi ei angen mwyach yn cael ei ailgylchu'n rhywbeth arall neu ei ailddefnyddio yn hytrach na'i anfon i safleoedd tirlenwi a gweithfeydd llosgi gwastraff. Gall hyn swnio'n afrealistig ond mae llawer o wledydd ledled y byd wedi dechrau mabwysiadu strategaeth dim gwastraff i symud tuag at economi gylchol.

 

Beth yw economi gylchol?

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mewn economi gylchol, mae cynhyrchion yn cael eu gwneud, eu dosbarthu, eu defnyddio, eu hailddefnyddio, eu hatgyweirio a'u hailgylchu, ac mae'r cylch yn ddiddiwedd ad infinitum.

Pam mae arnom angen economi gylchol?

 

Lleihau allyriadau

Oeddech chi'n gwybod y bydd economi gylchol yn arwain at ostyngiadau enfawr mewn nwyon tŷ gwydr niweidiol?

 

Daw 45% o'n hallyriadau nwyon tŷ gwydr cenedlaethol o'r ffordd rydyn ni’n gwneud ac yn defnyddio cynhyrchion, a’n dulliau o gynhyrchu bwyd.

Er enghraifft, meddyliwch am ffasiwn cyflym, sy'n gyfrifol am 10% o allyriadau carbon byd-eang blynyddol. Bydd allyriadau nwyon tŷ gwydr y diwydiant ffasiwn yn cynyddu mwy na 50% erbyn 2030. Gallwn i gyd wneud ein rhan drwy leihau faint o ddillad newydd rydyn ni’n eu prynu a dewis gwisgo'r hyn sydd gennym eisoes neu brynu dillad ail-law.

 

Mae symud y targed dim gwastraff ymlaen i 2030 yn golygu ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i leihau effaith newid yn yr hinsawdd heb aros nes ei bod hi’n rhy hwyr.

 

Manteision eraill

 

Bydd strategaeth dim gwastraff yn atal sbwriel a llygredd gwastraff, ond nid yw hyn yn ymwneud â ffasiwn cyflym neu gwpanau coffi a phlastigau untro yn unig.

Mae eitemau electronig hefyd yn cael effaith negyddol ar yr amgylchedd ac yn anodd eu hailgylchu. Rhaid i ni sicrhau bod llai o e-wastraff yn cael ei anfon i safleoedd tirlenwi er mwyn osgoi sylweddau peryglus a gwenwynig rhag cael eu rhyddhau i'r atmosffer a dŵr daear. Fel defnyddwyr, mae parhau i ddefnyddio ein ffonau, tabledi, gliniaduron ac ati hyd nes nad oes modd eu defnyddio mwyach, heb gael ein swyno gan bob model symudol/gliniadur newydd y mae'r cwmnïau technoleg yn eu rhyddhau bob hyn a hyn, yn ddechrau da.

 

Yn ogystal â lleihau allyriadau a llygredd gwastraff, mae strategaeth dim gwastraff hefyd yn gwarchod adnoddau, yn atal gwastraff bwyd, ac yn helpu i wella ansawdd gweithgynhyrchu oherwydd bydd defnyddwyr yn canolbwyntio mwy ar wydnwch cynnyrch. At hynny, bydd yn ofynnol i weithgynhyrchwyr ddefnyddio mwy o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu yn eu prosesau gweithgynhyrchu.

 

Bydd cymunedau'n elwa hefyd, oherwydd, er mwyn sicrhau bod strategaeth dim gwastraff yn gweithio ar lefel leol, mae angen i bobl leol helpu i'w gyrru. Wedi'r cyfan, maen nhw'n adnabod eu cymdogaeth yn well na neb arall!  Gall cydweithio ag eraill fod yn hwyl ac mae'n helpu cymunedau lleol i ddod o hyd i ddatrysiadau gwell ar gyfer materion gwastraff yn eu hardal a gall arwain at swyddi lleol cynaliadwy.

 

Dim llosgyddion!

Drwy symud y targed dim gwastraff ymlaen i 2030, gall Cymru gymryd cam ymlaen i fod yn arwr hinsawdd a helpu i arwain y ffordd yn rhyngwladol. Fodd bynnag, dylem sicrhau nad yw dyfodol diwastraff yn cynnwys unrhyw losgi, oherwydd wedi'r cyfan rydym yn ceisio lleihau ein hôl troed carbon, nid ei gynyddu.

 

Mae llosgi gwastraff yn cynhyrchu lefelau uchel o allyriadau nwyon tŷ gwydr, felly dylem chwilio am ffyrdd mwy ecogyfeillgar o ddatrys y materion rheoli gwastraff a pheidio â llofnodi contractau llosgi hirdymor o 20 neu 30 mlynedd fel arfer.

 

Gwledydd eraill

Mae llawer o wledydd eraill wedi dechrau mabwysiadu strategaethau dim gwastraff ledled y byd. Bu Sweden, Denmarc, yr Alban a De Affrica yn llwyddiannus wrth symud tuag at economi gylchol drwy osod targedau dim gwastraff is na llawer o wledydd eraill fel Ffrainc a Gwlad Belg.

 

Sweden

Cyrhaeddodd Sweden frig y rhestr drwy ailgylchu 99% o'u gwastraff lleol. Fodd bynnag, maent wedi mynd un cam ymhellach. Nawr maen nhw wedi dechrau mewnforio gwastraff o dramor i’w ailgylchu. Maen nhw’n anfon llai nag 1% o wastraff cartrefi i safleoedd tirlenwi. Er hynny, nid yw'r stori am lwyddiant hon yn fêl i gyd. Fel llawer o wledydd eraill yn Ewrop sydd wedi gosod targedau dim gwastraff, mae Sweden yn llosgi llawer o'i gwastraff.

 

Yr Iseldiroedd

Ymhlith gwledydd eraill Ewrop sy'n ceisio ennill statws diwastraff, mae'r Iseldiroedd yn amlwg iawn oherwydd eu lefelau isel o losgi gwastraff - dim ond 19% o wastraff cartrefi sy’n cael ei losgi. Mae’r Iseldiroedd yn rhoi mwy o ymdrech i ailgylchu gwastraff. Mae 78% o wastraff yn cael ei ailgylchu a dim ond 3% sy'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi.

 

Canada

Nid yr Iseldiroedd yw'r unig wlad sydd â chyfradd isel o losgi. Dim ond 5% o'r gwastraff mae Canada yn ei losgi. Serch hynny, mae eu cyfradd ailgylchu yn eithaf isel o'i chymharu â'r Iseldiroedd gan fod 72% o wastraff yn cael ei anfon i safleoedd tirlenwi.

 

Yr Unol Daleithiau

Mae'r Unol Daleithiau, ar y llaw arall, yn llosgi 12% o'u gwastraff a dim ond 32.1% o wastraff sy'n cael ei ailgylchu, yn ôl ystadegau 2018. Mae hyn yn golygu bod angen i Ganada ac UDA wella eu polisi ailgylchu o'i gymharu â llawer o wledydd Ewrop.

 

Awstralia

Mae stori wahanol yn Awstralia o ran rheoli ac ailgylchu gwastraff. Mae'n cynhyrchu mwy o wastraff na gwledydd datblygedig eraill ond mae’n ei allforio i wledydd sy'n datblygu fel Fietnam, Indonesia a Tsieina. Fodd bynnag, cawsant eu dal i raddau pan ddychwelodd y gwledydd hynny'r cynwysyddion a oedd yn dal y gwastraff, sef gwastraff ailgylchadwy yn bennaf, yn ôl i Awstralia.

 

Seland Newydd

Mae gan Seland Newydd stori ddiwastraff yn union fel Sweden. Yn 2001, gosododd 74 o awdurdodau lleol dargedau o ‘ddyfodol diwastraff i safleoedd tirlenwi’ rhwng 2015 a 2020 ac fe wnaethant fodloni'r targedau hyn rhwng y cyfnod hwn. Yn anffodus, nid yw sefyllfa dim gwastraff Seland Newydd mor lân, oherwydd maen nhw wedi anfon eu gwastraff plastig i lawer o wledydd de-ddwyrain Asia. Fodd bynnag, ers i'r gwledydd hyn ddechrau dychwelyd y cynwysyddion gwastraff, mae llosgi wedi'i gyflwyno fel ateb i hyn.

 

Gwledydd Asiaidd

Mae llawer o wledydd Asiaidd wedi dechrau gosod targedau dim gwastraff. Er enghraifft, dinas Kamikatsu yn Siapan yw'r ddinas gyntaf yn Siapan i gael strategaeth dim gwastraff, ac yna gwledydd fel Tsieina, India, ac Ynysoedd y Philipinau. Nid yn unig y gwrthododd Philippines y cynwysyddion gwastraff o wledydd datblygedig ond hefyd fe wnaethant ddatgan bod llosgi gwastraff yn anghyfreithlon yn y wlad. Yn anffodus, mae'r llywodraeth bresennol yn ystyried cyfreithloni llosgi gwastraff. Mae'r DU hefyd yn cael ei chyhuddo o allforio gwastraff i wledydd Asiaidd fel Sri Lanka a Malaysia.

 

Cymru

O'i chymharu â gwledydd datblygedig eraill, mae Cymru'n amlwg iawn oherwydd ei chysyniadau chwyldroadol o ran rheoli gwastraff sy’n cael eu harfer gan y llywodraeth ers 1998. Ers hynny, mae'r gyfradd ailgylchu wedi cynyddu o 5.2% i 60.7% rhwng 2018 a 2019, sydd ymhell ar y blaen i weddill y DU.

Mae hyn i gyd yn gadarnhaol iawn ond rydym yn annog y llywodraeth i symud targed dim gwastraff 2050 ymlaen i 2030 i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a lleihau'r swmp enfawr o wastraff sy'n cael ei ddympio mewn safleoedd tirlenwi. Fodd bynnag, nid llosgi gwastraff yw'r ateb, gan fod llosgyddion yn arwain at fwy o allyriadau a llygredd aer, sy'n effeithio ar iechyd y cyhoedd.

Os llwyddwn i gyrraedd y targed hwn, efallai mai ni fyddai'r genedl gyntaf i sicrhau statws dim gwastraff chwarae'n lân, oherwydd mae gwledydd eraill sydd wedi cyflawni'r statws hwn wedi llosgi eu gwastraff a/neu ei allforio i wledydd sy'n datblygu.

 

Mae'r cloc yn tician...

 

Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i symud targed dim gwastraff ymlaen o 2050 i 2030 oherwydd bod y cloc yn tician ac nid ydym wedi gwneud digon i ddelio â newid yn yr hinsawdd.

 

Mae'r argyfwng hinsawdd yn broblem ddifrifol y mae'n rhaid i wledydd datblygedig a gwledydd sy’n datblygu ei hwynebu. Felly, mae'n bwysig i ni ddatrys ein problem wastraff mewn ffyrdd moesegol ac ecogyfeillgar a fydd yn cyfrannu at ymdrin â newid yn yr hinsawdd.

 

Rydym yn croesawu strategaeth dim gwastraff Llywodraeth Cymru a'r camau angenrheidiol a gymerir ynddi i gael gwared ar lawer o blastigau untro drwy wahardd gwellt, cyllyll a ffyrc plastig, a chynwysyddion bwyd a diod polystyren fel rhan o fesur ehangach i fod yn un o'r gwledydd ailgylchu gorau yn y byd. A gall Cymru gyflawni'r holl dargedau hyn os byddwn yn gwthio Llywodraeth Cymru i symud y targed dim gwastraff ymlaen i 2030.

Mae gennym y gallu a'r dechnoleg i gyflawni statws dim gwastraff erbyn 2030, felly oedi tan 2050?

 

Fel y dywed Parkinson's Law, work expands to fill the time which is available for its completion!”

 

Share this page