Gwnewch Ffos y Fran yn ddiogel – adferwch ef nawr

Published: 22 Apr 2024

Ers i'r perchnogion roi'r gorau i gloddio'r safle, mae Ffos y Fran wedi llenwi'n gyflym gyda dŵr, ac mae'n prysur ddod yn llyn llygredig, sy'n beryglus i drigolion mewn sawl ffordd.
Photo showing Ffos y Fran filling with water (photo courtesy of Coal Action Network)
Mae Ffos y Fran bellach yn dwll enfawr, peryglus, sy'n llenwi â dŵr (llun drwy garedigrwydd y Rhwydwaith Gweithredu Glo)

Er rhyddhad enfawr i drigolion ac ymgyrchwyr, ac ar ôl 17 mlynedd o gloddio ar garreg eu drws, fe wnaeth perchennog Ffos y Fran, Merthyr (De Cymru) Cyf, roi'r gorau i gloddio glo.

Mae'r safle bellach yn rhyfedd o dawel ac nid yw trigolion sy'n byw yn ei gysgod yn nhref Merthyr Tudful bellach yn cael eu plagio gyda'r holl lwch a'r drôn o'r cloddiwyr a'r tryciau yn tynnu glo oddi ar y safle.

Ond i'r gymuned leol,  does fawr o gysur yn hyn o beth. Pan roes y perchnogion y gorau i gloddio glo, fe wnaethant ddiffodd y pympiau draenio. Nawr, maen nhw'n caniatáu i'r pwll glo yn Ffos y Fran lenwi â dŵr.

Felly, yn lle'r amwynder cyhoeddus a addawyd iddynt, mae trigolion Merthyr Tudful wedi cael eu gadael gyda thwll enfawr, peryglus, sy’n prysur lenwi gyda dŵr llygredig.

Rhoddwyd  caniatâd i gloddio glo yn Ffos y Fran ar yr amod bod y safle’n cael ei adfer er budd pobl leol; wedi'r cyfan, Cynllun Adfer Tir oedd hwn yn bennaf. Mae dicter dealladwy bod y cwmni hwn yn ceisio cael allan o'i rwymedigaeth i adfer y safle yn iawn.

Nawr mae'r gymuned leol mewn limbo wrth i Ferthyr (De Cymru) Cyf a Chyngor Merthyr drafod cynllun adfer diwygiedig. Roedd y cynllun hwn yn mynd i gael ei gyflwyno ddechrau'r flwyddyn ac mae bellach yn cael ei grybwyll fel un a fydd yn barod ddiwedd yr hydref eleni, felly nid ydym yn gwybod o hyd pryd y bydd y gwaith ar y safle yn dechrau.

Yn y cyfamser, mae'r sefyllfa yn Ffos y Fran yn mynd yn waeth ac yn waeth. Oni bai bod camau brys yn cael eu cymryd i wneud y safle hwn yn ddiogel i bobl a bywyd gwyllt, dim ond mater o amser yw hi cyn y bydd trasiedi’n digwydd.

 

Photo of Chris and Alyson Austin
Trigolion Chris ac Alyson Austin o Gyfeillion y Ddaear Merthyr

Dywedodd y trigolion Chris ac Alyson Austin, o Gyfeillion y Ddaear Merthyr:

"Be' sydd gyda ni yn awr yw craith ar y tirlun sy’n waeth na’r hyn a oedd yno ar y cychwyn. Mae'r strwythur peryglus hwn yn fygythiad a fydd yn gysgod dros y boblogaeth leol am y dyfodol rhagweladwy. Bydd y pwll llac ac ochrog hwn, wedi'i lygru gan docsinau o'r gwythiennau glo, yn fagnet i bobl ifanc.

"Nid oes arolwg wedi cael ei gynnal o’r pwll i weld a all ddal dŵr yn ddiogel felly does gennym ni ddim syniad a allai miliynau o alwyni o ddŵr raeadru allan o'r pwll pe bai'r waliau'n methu, a gallai'r dŵr llygredig ddianc i'r lefel trwythiad pe bai'n gollwng ohono.

"Rydym yn apelio’n daer ar yr asiantaethau cyhoeddus sydd â chyfrifoldeb am y pwll hwn i droi’r pympiau yn ôl ymlaen a draenio'r gwagle hwn fel y gellir o leiaf ei arolygu er diogelwch, ond yn well fyth, ei lenwi’n ôl i'w wneud yn ddiogel ac yn weledol dderbyniol ar gyfer dyfodol pob un ohonom ym Merthyr."

 

Photo of Haf Elgar
Haf Elgar, Cyfarwyddwr, Cyfeillion y Ddaear Cymru

Dywedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:

"Mae'n warthus bod Ffos y Fran bellach yn dwll peryglus sy'n llenwi'n gyflym gyda dŵr.

"Er diogelwch pobl leol a bywyd gwyllt, rhaid troi'r pympiau dŵr yn ôl ymlaen, a gweithredu cynllun adfer priodol ar frys. Mae'n rhaid i Gyngor Merthyr a Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau bod hyn yn digwydd.

"Pwrpas datganedig blynyddoedd o gloddio glo brig oedd y byddai'r cwmni wedyn yn adfer y safle er mwynhad pobl leol a natur. Mae'r gwrthwyneb bellach yn wir, ac ni allwn adael iddynt fynd i ffwrdd ag ef.

"Mae trigolion lleol wedi dioddef digon o aflonyddwch yn sgil y cloddio, sŵn a llwch dros y blynyddoedd - mae'n rhaid iddyn nhw nawr gael eu harbed rhag y sefyllfa hynod beryglus hon."

Efallai y bydd cloddio am lo yn dod i ben yn Ffos y Fran, ond i bobl leol ac ymgyrchwyr, mae'r frwydr dros gyfiawnder amgylcheddol a chymdeithasol ymhell o fod drosodd.

Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith y Senedd yn cynnal ymchwiliad i adfer safleoedd glo brig, gan gynnwys Ffos y Fran, a dros yr wythnosau nesaf fe fydd yn cynnal sesiynau tystiolaeth gyda grwpiau amgylcheddol gan gynnwys Cyfeillion y Ddaear Cymru a Coal Action Network, yn ogystal a thrigolion lleol sydd wedi eu heffeithio.

 

Share this page