Gwahodd enwebedigion y WGG i wisgo ffasiwn gynaliadwy

Published: 25 Nov 2019

Mae sylfaenydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig John Rostron yn cefnogi Sustainable Fashion Wales a Chyfeillion y Ddaear Cymru wrth iddynt alw ar enwebedigion WMP ac eraill sy'n bresennol i wisgo ffasiwn gynaliadwy yn y seremoni wobrwyo ar ddydd Mercher 27 Tachwedd yng Ngwesty'r Exchange, Caerdydd.

 

HMS Morris bandY band HMS Morris yw enwebai cyntaf WMP 2019 i dderbyn her #CarpediGwyrddCymru i wisgo rhywbeth sydd ganddynt eisoes, gwisg ail-law neu wedi ei benthyg neu wisg newydd wedi ei gwneud o ddefnyddiau cynaliadwy, ac wedi ei dylunio, ei gwneud a'i gweithgynhyrchu yng Nghymru os yn bosib.

Yn gyfrifol am 10% o allyriadau nwyon tŷ gwydr y byd, mae'r diwydiant ffasiwn yn cyfrannu'n helaeth at chwalfa hinsawdd a'r argyfwng ecolegol. Mae'r ymgyrch yn tynnu sylw at yr angen am fwy o arferion cynaliadwy yn y diwydiant fasiwn.

 

 

Dywedodd John Rostron, sylfaenydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig:

'Rydym yn wrth ein bodd fod y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn rhan o'r her #CarpediGwyrddCymru ac rydym yn edrych ymlaen at wneud mwy o ymdrech o ran ein dewisiadau dillad drwy bori'n ddwfn i fyd dillad ail-law. Fel cerddoriaeth dda, bydd y dillad yn para am flynyddoedd!'

 

 

Dywedodd Heledd Watkins o'r band HMS Morris:

"Mae'n amlwg fod y diwydiant ffasiwn wedi torri, ac mae ffasiwn gyflym yn creu llawer o niwed i'r amgylchedd a llesiant gweithwyr. Fel band rydym yn mwynhau bod yn fentrus â ffasiwn ar y llwyfan, ac rydym yn benderfynol o wneud hynny heb adael ein ôl-troed (drwg) ar y byd.

"O nawr ymlaen dim ond dillad ail-law, gwreiddiol, cynaliadwy ac ecogyfeillgar fyddwn ni'n eu prynu, nid yn unig am ei fod yn gadael llai o ôl-troed, ond gallwch hefyd ganfod darnau cyffrous ac unigryw sydd ddim ar gael ar y stryd fawr, darnau sydd â hanes iddynt, ac mae'n ddiddorol meddwl am fywyd eich dillad cyn iddynt gyrraedd eich cwpwrdd dillad chi!"

"Ni fyddwn yn prynu unrhyw beth newydd ar gyfer yr WMP na thymor parti'r Nadolig - mae'n debyg y bydd gennym rywbeth gwych yn y cwpwrdd dillad yn barod. Rydym hefyd yn gerddorion sy'n golygu ein bod ni heb yr un sentan."

 

Dywedodd Helen O'Sullivan o Sustainable Fashion Wales:

"Ers i mi fod yn blentyn rwyf wedi bod â diddordeb yn y cyswllt cryf rhwng ffasiwn a cherddoriaeth. Mae'r gallu i gyfleu ein hunaniaeth drwy'r hyn rydym yn ei wisgo a beth rydym yn gwrando arno yn parhau i ddylanwadu ar fy steil bersonol. Drwy gydol fy mywyd rwyf wedi cael fy ysbrydoli gan amrywiaeth o gerddorion, o fy nghariad gydol oes at seicadelia Jimi Hendrix, i steil Courtney Love fel person ifanc Cenhedlaeth X. Mae cerddoriaeth a ffasiwn wedi dylanwadu ar y naill a'r llall erioed.

"Drwy gydweithio gyda'r Wobr Gerddoriaeth Gymreig a'r ystod amrywiol o enwebedigion, rydym yn gobeithio tynnu sylw at y pethau cadarnhaol hefyd, drwy arddangos yr ochr amgylcheddol a chymdeithasol gyfrifol o ffasiwn wrth gyfleu hunaniaeth.

"Derbyniodd enwebedigion Bafta Cymru 2019, megis Jodie Whittaker, Huw Stephens, Celyn Jones a Ruth Jones her #CarpediGwyrddCymru ym mis Hydref. Nawr rydym yn galw ar enwebedigion WMP 2019 i wneud yr un fath drwy wisgo dillad neu hyd yn oed ategolion sydd wedi'u cyrchu mewn modd cyfrifol.

"Gall enwebedigion a'r rheiny sy'n bresennol wisgo dillad vintage, rhywbeth ail-law, neu rywbeth sydd wedi ei greu gan un o'r dylunwyr ffasiwn gynaliadwy anhygoel yng Nghymru. Ar ein gwefan ceir awgrymiadau a rhestr o ddylunwyr/gwneuthurwyr fyddai'n fwy na hapus i helpu gyda'r her."

Derbyniodd enwebedigion Bafta Cymru 2019, megis Jodie Whittaker, Huw Stephens, Celyn Jones a Ruth Jones her #CarpediGwyrddCymru ym mis Hydref.

 

 

 

Dywedodd llefarydd Cyfeillion y Ddaear Cymru, Eleni Morus:

"Mae'r diwydiant ffasiwn yn cael effaith drychinebus ar yr amgylchedd mewn sawl ffordd. Mae allyriadau o gadwyni cyflenwi fyd-eang yn llygru ein hamgylchedd. Mae'r gwledydd ble caiff y deunyddiau craidd eu cyrchu yn aml yn dioddef prinder dŵr oherwydd bod angen dyfrio cnydau sydd angen llawer o ddŵr yn ogystal â ffactrïoedd tecstilau yn llygru eu hafonydd. Mae gweithio yn y ffactrïoedd hyn yn beryglus, diraddiol a blinedig, a gwelir yn aml fod gweithwyr yn ymddeol o gwmpas 40 oed oherwydd iechyd gwael.

"Hyd yn oed pan mae'r dillad wedi cyrraedd y wlad derfynol, mae microffeibrau plastig yn cael eu rhyddhau wrth olchi'r dillad ac yn cyrraedd ein systemau dŵr ac mae dillad o ansawdd isel yn datod yn gyflym, gan ddilyn at £12.5 biliwn o ddillad yn mynd i domennydd sbwriel bob blwyddyn yn y DU.

Mae her #CarpediGwyrddCymru yn ffordd o wrthwynebu'r hyn y mae'r diwydiant ffasiwn yn ei wneud i'r blaned ar hyn o bryd. Drwy wisgo dillad vintage, ail-law, ailddefnyddiadwy neu gynaliadwy, mae enwebedigion y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn tynnu sylw at yr angen am newid ym Mhrifddinas Cymru a thu hwnt."

Cynhelir y digwyddiad ar 27 Tachwedd yng Ngwesty Exchange Caerdydd.

Share this page