Gofynion Polisi

Gofynion Polisi Etholiad 2016 Cyfeillion y Ddaear Cymru

Cymru addas ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol

 

Gyda chyflwyniad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol gan y Cynulliad hwn bydd gan y Llywodraeth Cymru a’r tymor Cynulliad nesaf ddyletswydd newydd i wella Cymru er mwyn ein lles cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol. Mae Cymru wedi ymrwymo i ddod yn genedl gynaliadwy, ac mae’r etholiadau Cynulliad 2016 a’r llywodraeth nesaf yn allweddol i siapio ein dyfodol a dangos yn glir sut y byddwn yn gwneud pethau’n wahanol yng Nghymru.

Bydd y Rhaglen Lywodraethu nesaf yn cyflwyno ein “hamcanion lles” cenedlaethol o dan y Ddeddf hon a disgwyliwn i bob cynnig a pholisi gan bleidiau gael eu hasesu yn erbyn egwyddorion datblygu cynaliadwy a’r nodau lles, yn ogystal â bod â chyfraniad cadarnhaol profedig tuag at y dangosyddion cenedlaethol yr ymgynghorir arnynt ar hyn o bryd.

Fel sefydliad cyfiawnder amgylcheddol credwn fod lles pobl a’r blaned yn mynd law yn llaw, ac rydym yn gweithio gydag eraill i ysbrydoli'r gweithredu lleol a chenedlaethol sydd ei angen i ddiogelu’r amgylchedd ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol.

Yn y ddogfen hon nodwn ein gofynion ar lywodraeth nesaf Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol. Wrth lunio’r gofynion hyn rydym wedi cynnal digwyddiadau ymgynghori gyda’n rhwydwaith grwpiau lleol. Cawsant hefyd eu llywio gan y wyddoniaeth a’r polisi diweddaraf gan ein rhwydwaith Cyfeillion y Ddaear rhyngwladol. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn byddwn yn cyhoeddi ein 5 prif flaenoriaeth polisi yn dilyn arolwg ac ymgynghoriad ar-lein.

 

Meysydd allweddol

  1. Ynni i bawb
  2. Newid hinsawdd
  3. Cymunedau cynaliadwy ar gyfer pobl a’r blaned
  4. Adnoddau a chyfyngiadau amgylcheddol
  5. Natur i bawb
  6. Cymru sy’n gyfrifol yn fyd-eang

 

  1. Ynni i bawb

Mae gan y byd fwy o danwydd ffosil nag y gallwn fforddio ei losgi os ydym i osgoi newid hinsawdd trychinebus. Mae angen i ni symud yn gyflymach oddi wrth losgi glo, nwy ac olew tuag at gynhyrchu ynni adnewyddadwy glân. Ac rydym yn ffodus yng Nghymru bod gennym ddigonedd o adnoddau gwynt, haul, llanw a dŵr. Mae llawer o hyn yn addas ar gyfer ynni graddfa fechan cymunedol a pherchnogaeth leol. Ond wrth gwrs y cam cyntaf yw lleihau ein defnydd ynni drwy wella effeithlonrwydd ynni, yn enwedig yn ein cartrefi gan wneud tai cynnes yn fforddiadwy a mynd i’r afael â thlodi tanwydd.

Rydym yn galw am ymrwymiadau o dan y penawdau canlynol:

 

Ynni Ni – Our Energy

Mae angen trawsnewidiad ynni ar Gymru – symud oddi wrth danwydd ffosil i ynni adnewyddadwy. Mae ynni adnewyddadwy cymunedol yn rhoi’r gorau o bob byd - mwy o berchnogaeth leol, gwell swyddi, sicrwydd cyflenwad a gweithredu pendant i fynd i’r afael ag allyriadau newid hinsawdd a ddaw o gynhyrchu trydan.

  • Targed ar gyfer lleihau defnydd ynni yng Nghymru.
  • Blaenoriaeth a mynediad fforddiadwy i’r grid trydan ar gyfer cynlluniau adnewyddadwy cymunedol.
  • Newid yn rheolau'r farchnad ynni i ganiatáu a blaenoriaethu cyflenwad ynni lleol fel y gall pobl brynu trydan a gynhyrchir gan grwpiau ynni adnewyddadwy cymunedol heb y costau annheg a osodir gan reolau presennol.
  • Cefnogaeth ar gyfer prosiectau ynni cymunedol drwy raglen Ynni’r Fro wedi ei gweddnewid, a chyfran deg o gyllido gan raglenni’r DU.
  • Rhagdybiaeth o blaid prosiectau ynni adnewyddadwy cymunedol o dan y system cynllunio.
  • Rhaglen uchelgeisiol o baneli solar neu systemau ynni adnewyddadwy addas eraill ar bob ysgol ac adeiladau cyhoeddus addas.

 

Effeithlonrwydd ynni fel blaenoriaeth seilwaith Genedlaethol

Rhaglen effeithlonrwydd ynni fawr yw'r unig brosiect seilwaith a fyddai’n creu swyddi ym mhob tref a phentref yng Nghymru. Dyma’r unig ffordd hefyd i roi terfyn ar sgandal tlodi tanwydd, byddai’n torri carbon mewn tai a chreu swyddi lleol yn y cymunedau mwyaf difreintiedig.

  • Effeithlonrwydd ynni ddylai fod y brif flaenoriaeth seilwaith, gyda rhaglen effeithlonrwydd ynni cartref i wneud gwaith retroffitio tai cyfan ar 150,000 o gartrefi incwm isel erbyn 2020 a chynllun i gynyddu hyn i 400,000 erbyn 2025. Gellid talu am hyn drwy ddefnyddio ffrydiau cyllido buddsoddiad cyfalaf (yn cynnwys y Banc Buddsoddi Gwyrdd) a phwerau benthyca.
  • Dylid gweithredu isafswm lefel effeithlonrwydd ynni o EPC C yn y sector rhentu preifat erbyn 2020 – gan adeiladu ar y system trwyddedu a chofrestru landlordiaid a gyflwynwyd gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
  • Rhaid i dai newydd fodloni safonau effeithlonrwydd ynni drwy adolygu rheoliadau Rhan L i gyflwyno tai dim carbon o 2017.

Rydym hefyd yn cefnogi gofynion allweddol maniffesto Clymblaid Tlodi Tanwydd Cymru.

 

Cymru Di-Ffosil

  • Ymrwymo i wahardd ffracio a phob ecsbloetio olew a nwy anghonfensiynol yng Nghymru.
  • Dim mwy o gloddio glo brig yng Nghymru, gan weithredu’r cyfyngiadau mwyaf ar weithrediadau presennol i ddiogelu cymunedau a pheidio ag ymestyn cynlluniau cyfredol.
  • Dadfuddsoddi a chyllido cyfrifol - Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol i ddadfuddsoddi o’r daliadau tanwydd ffosil mewn cynlluniau pensiwn ac unrhyw fuddsoddiadau ariannol eraill, ac i annog awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru i wneud hynny hefyd fel rhan o’u cyfraniad tuag y nod o fod yn Gymru sy’n gyfrifol yn fyd-eang yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
  • Dim estyniadau na rhanddirymiad i’r unig orsaf bŵer glo sy’n weddill yng Nghymru (Aberddawan) a chadarnhau y bydd yn cau dim hwyrach na 2020 gyda chynlluniau pontio cyflogaeth ar waith ar gyfer cymunedau yr effeithir arnynt.

 

Y dyfodol nid y gorffennol

  • Cynyddu defnydd dulliau ynni adnewyddadwy profedig a chyflwyno targedau ynni adnewyddadwy ar gyfer awdurdodau lleol.
  • Ymrwymo i ddyblu defnydd trydan 2010 sy’n dod o ynni adnewyddadwy erbyn 2025 a bod â 100% o drydan adnewyddadwy yng Nghymru erbyn 2030.
  • Cefnogi arloesedd mewn technoleg adnewyddadwy i wneud Cymru yn arweinydd byd yn y maes. Cefnogi technolegau newydd gyda’r potensial o’u datblygu yng Nghymru, yn cynnwys storio ynni.
  • Ymchwilio system amgen o gefnogaeth ar gyfer ynni adnewyddadwy yng ngoleuni ansicrwydd ynglŷn â chynlluniau presennol yn y DU i sicrhau fframwaith ariannol sefydlog.
  • Dim niwclear newydd (yn cynnwys yr Wylfa Newydd) na gwastraff niwclear. Ni ddylai fod adeiladu niwclear yng Nghymru na chyfleusterau gwastraff niwclear graddfa fawr - mae hyn yn tynnu’r sylw oddi wrth y llwybr tuag at ynni adnewyddadwy ac atebion carbon isel mwy effeithiol mewn modd peryglus a drud. Dylid ei wrthwynebu gan y Llywodraeth Cymru nesaf.
  • Dylid datganoli'r holl bwerau dros ynni, y grid a rheoleiddio cwmnïau ynni i Gymru er mwyn gallu cynllunio llwybr clir tuag at ynni glân a chwrdd â’n targedau lleihau allyriadau.

 

  1. Newid hinsawdd

Ers yr etholiad Cynulliad diwethaf mae gwyddoniaeth newid hinsawdd wedi tyfu hyd yn oed yn gryfach. Datgelodd yr adroddiad IPCC diweddaraf bod lefelau’r môr yn codi, ia’r môr yn lleihau a rhewlifau’n toddi yn gyflymach, a rhoddodd ddarlun cliriach i ni o’r effaith y mae hyn yn ei gael ar gymunedau mwyaf bregus y byd a’r effaith gynyddol ar bobl a natur ledled y byd.

Byddwn yn galw am fargen fyd-eang deg ar newid hinsawdd drwy’r UNFCC ym Mharis ym mis Rhagfyr a’i gweithredu yng Nghymru drwy:

  • Darged lleihau allyriadau erbyn 2050 yn unol â’r wyddoniaeth ddiweddaraf a chyfrifoldebau byd-eang - credwn fod angen lleihad o 95%.
  • Ymrwymiad i gadw a chyflwyno cynigion i gyrraedd y targed polisi a gytunwyd o doriadau gwerth 40% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2020.
  • Cyllidebau carbon Cymru (fel y’u hargymhellir yn Bil yr Amgylchedd (Cymru)) i’w seilio ar egwyddorion cyfartaledd a thegwch byd-eang, gyda risg isel o fynd dros gynhesu o 2 radd a dilyn trywydd serth tuag at darged 2050 fel ein bod yn cymryd camau cynnar i ddatgarboneiddio sy’n fwy cost effeithlon ac sy’n lleihau allyriadau yn gyffredinol. 
  • Asesiad carbon ar bob cyllideb ariannol, strategaethau mawr a phrosiectau seilwaith.
  • Riportio blynyddol a’r Cynulliad i graffu ar y cynnydd tuag at dorri allyriadau.

 

  1. Cymunedau cynaliadwy ar gyfer pobl a’r blaned

Mae angen i’n cymunedau fod yn ofodau byw a gweithio sy’n addas i bobl a’r blaned. Dylem fod yn cynllunio ein cymunedau er mwyn galluogi pobl i fod â ffyrdd o fyw carbon isel, a’u grymuso i fod yn rhan o wneud penderfyniadau.

Galwn am y canlynol:

  • Galluogi cyfranogiad cyhoeddus, hawl cymunedau i gael eu clywed mewn penderfyniadau cynllunio a chyflwyno hawl cymuned i apelio.
  • Pob Cynllun Datblygu Lleol i gael ei ailasesu yn unol â’r rhagamcaniadau diweddaraf o newid poblogaeth er mwyn gwneud yn siŵr na fydd gor-ddatblygu’n digwydd.
  • Diddymu’r cynigion newydd ar gyfer yr M4, gyda buddsoddi’n cael ei flaenoriaethu ar gyfer teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus.
  • Llywodraeth Cymru i’w gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol asesu parthau 30mya gyda’r bwriad o’u hailgynllunio fel parthau 20mya oni bai bod amgylchiadau eithriadol yn berthnasol.
  • Cynyddu pwyntiau gwefru ceir trydan ar adeiladau cyhoeddus ac fel rhan o ddatblygiadau ac ailwampiadau mawr newydd.
  • Gwneud beicio yn ddiogelach ac yn haws gyda phrawf hyfedredd beicio gorfodol fel rhan o’r prawf gyrru ac asesiadau beicio ar gyfer prosiectau ffyrdd.
  • Trydaneiddio pob llinell rheilffordd yng Nghymru ac ystyried ail agor llinellau rheilffyrdd strategol ar gyfer teithwyr e.e. Caerfyrddin i Aberystwyth.
  • Gwella rhyng-gyfnewid a hwyluso integreiddiad rhwng teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus a rhwng gwahanol ddulliau trafnidiaeth gyhoeddus.

 

  1. Adnoddau a therfynau amgylcheddol

Mae’r pethau a ddefnyddiwn a beth sy’n mynd i mewn iddynt yn werthfawr a dylid eu trin felly - nid yw ein hadnoddau byd-eang yn ddiderfyn. Dylem ystyried yr holl adnoddau sydd â therfyn iddynt sy’n mynd i mewn i’r nwyddau a gwasanaethau a ddefnyddir gennym yng Nghymru, lle bynnag y cânt eu cynhyrchu.

Rydym yn cefnogi mesur hyn drwy ddefnyddio'r dull ‘pedwar ôl troed’ - cyfrifo’r carbon, deunyddiau, dŵr a thir a ddefnyddir wrth gynhyrchu ein nwyddau a’n gwasanaethau. Argymhellwn y dylai’r rhain gael eu cynnwys yn y Dangosyddion Cenedlaethol ar gyfer Cymru, gyda chynllun i leihau’r ôl troed hwn.

 

Argymhellwn hefyd:

  • Gyflwyno cynllun blaendal am gynhwysyddion diodydd.
  • Cyflwyno treth llosgi, gwaharddiad ar losgi pob deunydd y gellir ei ailgylchu, gwrthwynebu llosgi ar raddfa fawr a chymorthdaliadau ar gyfer llosgi - sydd i gyd yn gweithio yn erbyn polisi dim gwastraff.
  • Cyflwyno targed ailgylchu statudol o 85% erbyn 2030 a chynllun clir ar gyfer dim gwastraff erbyn 2040.
  • Ystyried cyfrifoldeb cwmnïau am adnoddau - gyda manwerthwyr yn gyfrifol am y deunydd pecynnu, gwastraff a gwastraff bwyd a gynhyrchir ganddynt.
  • Lleihau gwastraff bwyd drwy ei gwneud hi’n ofynnol i archfarchnadoedd roi bwyd nas gwerthwyd i elusennau.

 

  1. Natur ar gyfer pawb

Yn ein bywydau prysur mae’n hawdd anghofio am bwysigrwydd natur a sut mae ei angen arnom ar gyfer bwyd iach, dŵr, deunyddiau, dysgu, iechyd a lles. Mae llawer o bobl yn dibynnu ar natur ar gyfer eu bywoliaeth a’u ffordd o fyw.

Roedd Cynllun Gweithredu ar gyfer Pryfed Peillio Llywodraeth Cymru yn ganlyniad uniongyrchol ymgyrch Cadw Gwenyn Cyfeillion y Ddaear Cymru. Mae’r tasglu a ddeilliodd ohono yn enghraifft gadarnhaol o ffyrdd o weithio rhwng Llywodraeth Cymru, unigolion a  sefydliadau.

Rydym yn cynnig bod Llywodraeth Cymru yn:

  • Cyflwyno cynllun o drefi cyfeillgar i bryfed peillio, yn dilyn llwyddiant trefi masnach deg, gyda set o feini prawf i gymunedau, trefi ac ardaloedd awdurdodau lleol eu bodloni er mwyn bod yn gymwys fel ardaloedd cyfeillgar i bryfed peillio.
  • Datganoli pwerau dros reoleiddio plaladdwyr - a deddfu i wahardd y rhai yr ydym yn gwybod eu bod yn achosi niwed neu berygl sylweddol i bryfed peillio.
  • Sicrhau bod gan blant well cysylltiad a mwy o gysylltiad gyda natur fel rhan o’u bywydau bob dydd - yn yr ysgol, wrth chwarae ac yn eu cymunedau.
  • Cefnogi gwreiddio cyfarwyddebau’r UE yn ymwneud â chynefinoedd, adar ac ardaloedd cadwraeth yn neddfau Cymru.
  • Cefnogaeth ar gyfer ffermio cynaliadwy a chydnabyddiaeth o rôl ffermwyr fel gwarchodwyr cefn gwlad a chynhyrchwyr bwyd lleol.
  • Asesu'r posibilrwydd i fwy o fwyd anifeiliaid a ddefnyddir yng Nghymru i gael ei gynhyrchu’n lleol, er mwyn gwarchod yn erbyn cynnydd mewn costau bwyd anifeiliaid yn rhyngwladol ac osgoi mewnforio soia GM.
  • Parhau i ddefnyddio’r dull mwyaf cyfyngol posibl o ran cnydau GM a gwahardd unrhyw gnydau GM pellach a awdurdodir ar lefel UE.
  • Ymchwilio posibilrwydd ac effaith bod dyfroedd Cymru yn dod yn barth lle gwaherddir llongau pysgota mawr rhag gweithredu.

 

  1. Cymru sy’n gyfrifol yn fyd-eang

Mae gan Gymru gyfraniad gwerthfawr i’w wneud i’r byd. Dangoswyd hyn eisoes gyda gweithredu megis dod y wlad masnach deg gyntaf a chefnogi rhaglen Cymru o Blaid Affrica. Mae’r nod “Cymru sy’n gyfrifol yn fyd-eang” yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol nawr yn gwreiddio’r ymrwymiad hwn yn ein deddfwriaeth.

Credwn y dylai dinasyddion Cymru gael eu grymuso i fod yn ddinasyddion byd-eang ac y dylai Llywodraeth Cymru:

  • Gefnogi aelodaeth yr UE, oherwydd y manteision ar gyfer yr amgylchedd yng Nghymru.
  • Gwrthwynebu’r Bartneriaeth Masnach a Buddsoddiad Traws Iwerydd (TTIP) UE-UDA niweidiol.
  • Cefnogi Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-Eang fel modd i ddatblygu dinasyddion gwybodus, medrus ac wedi eu grymuso yng Nghymru. Cynnwys newid hinsawdd a’i effaith fel elfen gref yn yr Addysg Byd-eang hwn mewn ystafelloedd dosbarth, amgueddfeydd, llyfrgelloedd, parciau a lleoliadau cyhoeddus. 
  • Parhau i chwarae rôl weithredol mewn fforymau rhyngwladol megis y Rhwydwaith Llywodraethau Rhanbarthol dros Ddatblygu Cynaliadwy (NRG4SD) a chyfarfodydd  perthnasol y Cenhedloedd Unedig megis yr Uwchgynhadledd Byd ar Hinsawdd a Thiriogaethau.
  • Sicrhau bod Cymru’n gyfrifol am ei heffeithiau amgylcheddol byd-eang drwy gynnwys y pedwar ôl troed - carbon, deunyddiau, dŵr a thir fel Dangosyddion Cenedlaethol a datblygu cynllun ar gyfer lleihau ein hôl troed byd-eang.
  • Caniatáu i ddinasyddion Cymru a chymdeithas sifil chware rhan lawn mewn bywyd gwleidyddol drwy wrthwynebu Rhan 2 o Ddeddf Lobïo y DU sy’n gosod cyfyngiadau annheg ar ymgyrchu amhleidiol, ac ymrwymo i ddileu’r adran hon mewn perthynas ag etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol pan gaiff y pwerau hyn eu datganoli.

 

Diwedd. 

 

 

Share this page