Dylai Cymru anelu at fod yn genedl ddiwastraff erbyn 2030

Published: 9 Sep 2019

Bleddyn Lake

Blog gan Bleddyn Lake
Rheolwr Ymgyrchoedd a Datblygu
Cyfeillion y Ddaear Cymru

Felly beth yn union yw diwastraff? Yn union fel yr awgryma. Dim gwastraff mwyach.

‘Every generation blames the one before’, dyna i chi linell o gân 1988 Mike and the Mechanics 1988, The Living Years. Mae a wnelo hyn â’r berthynas rhwng un genhedlaeth a’r llall, nid am ddinistrio’r blaned. 

Fel y gwelsom gyda’r protestiadau ysgolion dros yr hinsawdd, mae’r genhedlaeth ifanc wirioneddol yn dechrau cwyno am y llanast mae’r cenedlaethau hŷn wedi ei greu - trychineb o ran yr hinsawdd, dinistrio ecolegol a bioamrywiaeth ar raddfa nas gwelwyd ei thebyg o’r blaen, plastigau yn creu sbwriel ac yn tagu a llygru pob cornel o’r byd.

Ers i David Attenborough a’i dîm The Blue Planet 2 ddangos i ni'r hyn oedd yn digwydd yn y moroedd a’r cefnforoedd, gwelwyd newid mawr yn ymwybyddiaeth y cyhoedd am blastigau untro. Wrth gwrs, nid ydym yn agos at yr hyn lle dylem fod, ond mae cyflymder rhai o’r newidiadau a welsom eisoes ymhlith pobl, busnesau a llywodraethau yn bur anhygoel.

Beth yw’r nod felly? 

 

Diwastraff erbyn 2030! 

Ym mis Mehefin 2010, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff. Cafwyd sawl argymhelliad cadarnhaol ynddo a phennodd amserlen i Gymru ddod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050. Er bod llywodraeth genedlaethol yn trafod diwastraff bryd hynny’n beth cadarnhaol iawn, mae’n adeg iawn i edrych eto ar y strategaeth hon a’i diweddaru ar gyfer yr heriau rydym bellach yn eu hwynebu. Felly, rydym yn falch iawn clywed y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar adolygu’r strategaeth ddiwastraff hon cyn diwedd y flwyddyn.

 

Beth yn union felly yw diwastraff?

Yn union yr hyn a ddisgrifia. Dim gwastraff mwyach. Y cysyniad yw, gan y cynlluniwyd ac ail-gynlluniwyd cynhyrchion i’w hail ddefnyddio, eu hatgyweirio, eu hail lenwi, eu hail gylchdroi a’u hailgylchu, nid oes raid iddynt fynd i safleoedd tirlenwi, neu gael eu llosgi. Ystyriwyd holl gylch bywyd cynhyrchion a chaiff unrhyw gynhyrchion ‘gwastraff’ yn raddol eu cynllunio allan o’r system. Mae sawl elfen i hyn ac yn sicr nid yw’n hawdd, ond rhaid i ni anelu ato.

 

Beth sydd a wnelo hyn â’ch americano boreol?  

Os ydym i symud at fod yn genedl ddiwastraff, bydd rhaid mynd i’r afael â chwpanau untro rywbryd. Credwn mai bod ar flaen y gad sydd orau, ymdrin â’r mater rŵan, a gallu gwireddu’r manteision yng Nghymru.

Gyda llywodraethau Prydain yn gweithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth o faterion plastigau a gwastraff, gan gynnwys cynigion ar gyfer Cynllun Dychwelyd Blaendal a Chyfrifoldeb Estynedig y Cynhyrchydd (y syniad mai’r sawl sy’n cynhyrchu’r deunydd yn y lle cyntaf ddylai dalu am ei gasglu, a’i drin wedi’i ddefnyddio, yn hytrach na rhoi’r cyfrifoldeb ar y cynghorau i ymdrin ag ef). Oni byddai’n drueni os na chaiff newid un o’r pethau hawsaf sylw yn y cynigion newydd ac y’i gadewir fel cynllun gwirfoddol yn hytrach. Wedi’r cyfan, onid y cwbl sy’n rhaid i ni ei wneud yw yfed o gynwysyddion y gellir eu hail ddefnyddio? Dyma fyddai’n well gan Lywodraeth Prydain ei wneud, a cholli’r cyfle fyddai hynny. 

Cafwyd trafodaethau diweddar ar blastigau a hynny’n gwbl briodol. Ond mae’r cwpanau untro hyn hefyd yn ein hatgoffa y defnyddir adnoddau eraill mewn cynhyrchion fel y rhain ar raddfeydd sy’n codi o hyd. Yn yr achos hwn papur (y nifer mwyaf ohono ar gyfer cwpanau untro o ffynonellau newydd sbon, nid wedi’u hailgylchu, oherwydd materion iechyd a diogelwch a glendid o bosibl).

Dengys ystadegau, ar gyfartaledd, fod pob unigolyn yn y DU yn gyfrifol am 4.5 o goed yn cael eu torri bob blwyddyn, ond i fodloni ein gofynion papur (papur, papur cegin, papur toiled, pecynnu ayyb). Mewn oes lle mae angen i ni ganolbwyntio ar blannu biliynau o goed er mwyn helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, rhaid lleihau ein galw am gynhyrchion papur neu bydd rhaid i ni blannu 4.5 o goed y person y flwyddyn yn y DU, ond i sefyll yn yr unfan. Heb sôn am rywbeth y tu hwnt i hynny a’r holl ffynonellau eraill o ddatgoedwigo chwaith! Un o’r pethau hawsaf y gallwn ei gyflawni er enghraifft yw ail ddefnyddio cwpanau coffi, onid e?

 

Gwyddom fod tua 557 miliwn o gwpanau untro’n cael eu defnyddio yng Nghymru bob blwyddyn. A bwrw mai tua 10cm ar gyfartaledd yw uchder cwpan (oni bai bod eich mathemateg yn wael fel fy un i!), cewch ddelwedd pur anhygoel o’r cwpanau hyn yn nadreddu eu ffordd o gwmpas cyhydedd yr holl fyd, gyda thipyn yn weddill hefyd! Oedwn ni ddim ar y pellter y llwyddais i gyfrifo wedi i mi wneud y swm! 

 

Mae  Eunomia  yn amcangyfrif codi tâl o 25c neu dreth ar gwpanau untro a lenwyd adeg eu gwerthu yng Nghymru, ynghyd â threfn ddychwelyd fandadol mewn siopau coffi, a allai leihau nifer y cwpanau hyn tua 30% a chynhyrchu tua £97m y flwyddyn.

Mewn oes o gyni, a’r gofynion cynyddol am newid, o ble y daw arian ychwanegol ar gyfer mentrau lleihau gwastraff newydd? Mae’n hawdd galw am fwy a mwy o weithredu a newid, ond mae’r pwll o arian yn aros yr un fath yng Nghymru, mwy neu lai. Rhaid i ni feddwl yn fwy creadigol am ffynhonnell posibl o arian. Byddai £97m (o leiaf yn ystod y flwyddyn gyntaf, y gobaith yw gostwng yn sylweddol wedi hynny) dwi’n sicr yn helpu rhywfaint tuag at ariannu amrywiaeth o fesurau diwastraff.  

Yr hyn y mae’r cynhyrchion hyn yn ei ddangos i ni yw i’r drafodaeth symud ymlaen o ddim ond ailgylchu pethau. Rhaid i ni ganolbwyntio llawer mwy ar ddefnyddio llai o bethau i gychwyn, ac felly agosáu at ddod yn genedl ddiwastraff.

Bydd gweithio tuag at ddod yn genedl ddiwastraff go iawn a chael economi gylchol yn golygu hyd yn oed mwy o weithredu ar wastraff bwyd, plastigau,  papur, cewynnau ayyb a dylai hefyd ganolbwyntio ar sicrhau bod yr holl gyfleusterau prosesu yn bodoli yng Nghymru yn y dyfodol fel nad ydym yn creu’r sefyllfa anhygoel lle mae peth o’r nwyddau rydym yn eu hanfon i’w hailgylchu mewn gwirionedd yn gorffen eu taith ar domenni gwastraff mewn mannau eraill o’r byd. Mae angen i’r cyfleusterau hyn fod yng Nghymru/yn y DU ac mae angen i ni sicrhau bod y marchnadoedd ar gyfer y deunyddiau ailgylchu hefyd yn bodoli. 

Fel sy’n wir am lawer o atebion eraill i’r argyfyngau bioamrywiaeth a newid yn yr hinsawdd, mae modd creu llawer o swyddi posibl. Bydd llawer ohonynt yn rhai lleol a byddant yn helpu i gynnal ac adfywio economïau lleol - sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill. Bu sefydliadau fel Economi Gylchol Cymru yn weithredol iawn yn hyrwyddo amrywiaeth o atebion gwahanol http://circulareconomy.wales/ tebyg i ganolfannau ailgylchu defnyddiol ac ailbrosesu cymunedau lleol y Sied Werdd.

  

Beth sydd a wnelo hyn â newid yn yr hinsawdd?

Caiff gwthio am ardoll latte ymddangos fel crafu ar wyneb problem anferthol, ond  ein barn yw bod rhaid cael llawer o ddulliau amrywiol er mwyn gweithredu ar newid yn yr hinsawdd ledled pob sector. Os na fyddwn ni’n newid ein harferion erbyn y flwyddyn 2050, bydd cynhyrchu plastigau ledled y byd yn gyfrifol am tua 13% o gyllideb carbon y byd. Mae hynny heb ystyried y papur a ddefnyddir yn y cwpanau hyn chwaith. Yn 2019, roedd cylch oes cynhyrchu plastigau’r byd, o dynnu i waredu, yn gyfartal â’r effaith ar yr hinsawdd o orsafoedd pweru glo yn cynhyrchu 189 500MW. Erbyn 2050, mae adroddiad diweddar y rhagweld y bydd ôl-troed plastig y byd yn gyfartal â 615 o weithfeydd glo yn cynhyrchu i’w heithaf. Efallai na fydd gweithredu ar gwpanau defnydd untro yn newid y byd ar ei ben ei hun, ond mae’n rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud fel rhan o’i ymgynghoriad sydd ar ddod ar fod yn ddiwastraff.

 

Cymunedau Diwastraff

Bu Zero Waste Scotland yn cyd-weithio â sawl cymuned ar y syniad o greu Trefi Diwastraff a Chymunedau Diwastraff. Meddyliwch am ‘Drefi Diblastig’ ond mynd â’r syniad sawl cam ymhellach a chreu lleoedd Diwastraff. 

O gofio brwdfrydedd cymunedau ym mhob man yn llwyddo i ennill eu statws Diblastig, mae’n rhaid i ni feddwl am ba gamau i’w cymryd nesaf. Beth fydd y cam nesaf i’r cymunedau hyn? Sut rydym am ddefnyddio’r egni a’r brwdfrydedd a grëwyd i symud ymlaen? 

Byddem yn argymell ac yn cefnogi creu menter Cymuned Ddiwastraff yng Nghymru. Dengys y profiad yn yr Alban bod y mentrau hyn yn helpu i ddod a chymunedau at ei gilydd ac yn creu swyddi lleol y mae gwir eu hangen. Byddai’n wych pe gallem gefnogi rhai cymunedau i ddod yn lleoliadau diwastraff ac yna defnyddio’r hyn a ddysgwyd gennym i greu pecyn cymorth i gymunedau ledled Cymru i’w helpu i geisio dod yn lleoedd di wastraff swyddogol.

Ac wrth gwrs, hoffem weld targed creu cenedl ddiwastraff erbyn 2050 yn cael ei ddwyn ymlaen yn sylweddol. Byddai 2030 yn gwneud synnwyr, o gofio’r angen i gymryd camau pendant erbyn hynny ar newid yn yr hinsawdd. 

Beth am orffen ac edrych eto ar eiriau’r gân The Living Years ..… 

 

“And if you don't give up, and don't give in 
You may just be O.K. 
 
Say it loud, say it clear”

https://www.foe.cymru/news/time-wales-perk-latte-levy  

Share this page