Cyngor UKCCC - ein hymateb

Published: 17 Dec 2020

Dyma'r amser i Gymru fod yn feiddgar – ein hymateb i gyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd.

Wrth ymateb i gyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd i Lywodraeth Cymru ar dargedau allyriadau, a gyhoeddwyd heddiw (17 Rhagfyr 2020), dywedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:

 

"Mae cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd (UKCCC) sy'n annog Cymru i fod yn sero net erbyn 2050 yn gam ymlaen, ac yn welliant ar gyngor y llynedd. Ond mae'n dal yn brin o'r uchelgais sydd ei angen i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

"Nawr yw'r amser i Gymru fod yn feiddgar. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i anelu'n uchel, ac ymdrechu i fynd ymhellach ac yn gyflymach nag argymhellion UKCCC, fel y gallwn gyrraedd allyriadau sero net cyn gynted â phosibl.

"Rydym eisoes yn gweld effeithiau dinistriol newid yn yr hinsawdd gyda llifogydd mewn cymunedau yng Nghymru, yn ogystal â'r tywydd eithafol a brofir gan y bobl dlotaf mewn gwledydd sy'n datblygu. Rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i leihau ein hallyriadau ac osgoi newid yn yr hinsawdd nad oes modd ei ddadwneud.

 

"Mae'r blynyddoedd nesaf yn hollbwysig – a bydd etholiadau'r Senedd fis Mai nesaf yn hanfodol ar gyfer gosod Cymru ar y llwybr cywir. Mae arnom angen cynllun gweithredu hinsawdd sy'n gwneud newidiadau ar draws pob maes polisi ac yn ein harwain at adferiad gwyrdd a theg.

"Cymerwch drafnidiaeth, er enghraifft. Dychmygwch rwydwaith o draffyrdd beicio, ynghyd â thrafnidiaeth gyhoeddus gwbl integredig fel bod un rhwydwaith, un amserlen ac un tocyn, fel mewn lleoedd fel y Swistir, a safonau gwasanaeth fel y gall pobl elwa o fysiau a threnau amlach, lle bynnag y maent yn byw yng Nghymru. Byddai system drafnidiaeth fel hon yn annog pobl i adael eu ceir gartref a dyma'n union faint o newid sydd ei angen i fod yn sero net cyn 2050."

Share this page