Celf, crefftau a chwilt cymunedol – y cyfan ar gyfer Cartrefi Cynnes

Published: 20 Mar 2024

Photo of Raoul Bhambral

 

Raoul Bhambral
Gwirfoddolwr, Cyfeillion y Ddaear Cymru

Daeth Cyfeillion y Ddaear Caerdydd â phobl ynghyd o bob rhan o'r ddinas i wneud cwilt cymunedol fis Tachwedd eleni.

Community quilt

 

 

Fel rhan o'r ymgyrch Unedig dros Gartref Cynnes, roedd y grŵp yn awyddus i dynnu sylw at yr angen i gefnogi pobl fregus gyda'u biliau ynni, i inswleiddio ein cartrefi sy'n gollwng gwres yn gyflym ac i gynyddu’r defnydd o ynni adnewyddadwy cost isel ar gyfer ein hanghenion ynni.

Trefnwyd digwyddiad ymgyrch celf a chrefft yn Chapter lle gwahoddwyd pobl i roi eu neges ar ddarn o ddeunydd. Bydd y sgwariau hyn yn cael eu gwnïo at ei gilydd i wneud cwilt cymunedol gyda'n holl alwadau am Gartrefi Cynnes.

 

Catherine Hughes
Catherine Hughes, Cardiff Friends of the Earth

Catherine Hughes, Cyfeillion y Ddaear Caerdydd

Dywedodd Catherine Hughes o Gyfeillion y Ddaear Caerdydd, "Roedd yn ddigwyddiad gwych gyda llawer o greadigrwydd a thrafodaethau am ynni a chartrefi cynnes. Fe wnaethon ni sawl sgwâr ar y diwrnod gyda llawer mwy yn cael eu hanfon i mewn gan grefftwyr a oedd yn cymryd rhan o’u cartrefi.

Yn ôl ym mis Ebrill, buom yn gweithio gyda chymunedau yn Grangetown i ddangos faint o wres yr oeddent yn ei golli o'u cartrefi. Mae'r cam nesaf hwn yn galw am gymorth y llywodraeth i fynd i'r afael â'r gwastraff hwn o ynni ac arian.

Mae'n ein poeni y byddwn yn mynd i aeaf heriol arall gyda chymaint o bobl yn byw mewn cartrefi oer."

 

 

 

Gweithio gyda'r gymuned

People sitting around a table making quilts

Hysbysebodd Cyfeillion y Ddaear Caerdydd y weithred yn eang ar ei sianeli cyfryngau cymdeithasol. Yn ogystal, cafodd posteri a thaflenni eu harddangos o gwmpas y dref yn gwahodd pobl i gymryd rhan.

Dywedodd Rosie Spears, aelod o'r gymuned, a ymunodd ar y diwrnod, "Roedd yn ffordd mor greadigol i siarad am fater mor bwysig. Mae pobl angen help gyda'r argyfwng costau byw a'u biliau ynni ac mae'r ymgyrch hon yn ddatrysiad rhesymegol. Mae angen i lywodraethau weithredu nawr.

Roedd gweithredu yn y modd hwn yn ffordd hwyliog o alw am hynny. Roedd bod yn grefftus a chreadigol yn golygu y gallai pobl ymuno o’u cartrefi a bod yn rhan o’r ymgyrch."

Mae'r cwilt, sydd bellach yn cynnwys tua 40 o sgwariau, yn cynnwys negeseuon fel 'Inswleiddiwch Nawr', 'Cartrefi Cynnes i Bawb', 'Cadwch yn Wyrdd' ymhlith llawer mwy.

Yn gynharach y bore hwnnw ymunodd y grŵp â Climate Cymru y tu allan i adeilad y Senedd ar gyfer ymgyrch Cynnes y Gaeaf hwn. Cefnogir yr ymgyrch hon hefyd gan Gyfeillion y Ddaear, ochr yn ochr â Maint Cymru, WWF, Oxfam a mwy. 

 

Beth nesaf?

Mae'r grŵp yn falch o gael cymaint o gyfraniadau tuag at y cwilt cymunedol a bydd yn ei ddefnyddio mewn camau gweithredu yn y dyfodol ar yr ymgyrch hon.

Mae Catherine yn gadarnhaol iawn, "Efallai y byddwn yn mynd ag ef i'r Senedd i'w ddangos i'n Haelodau Seneddol neu efallai y byddwn yn ei throi'n faner. Y pwynt yw mai lleisiau pobl yw'r rhain sy'n galw am weithredu i sicrhau cartrefi cynnes. Dylai ein gwleidyddion etholedig gymryd sylw."

 

 

Share this page