Dywedwch wrth Lywodraeth Cymru eich bod chi eisiau Deddf Aer Glân
Published: 5 Feb 2020
Mae llygredd aer yn cyfrannu at tua 2,000 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn. I achub bywydau ac amddiffyn ein plant, ac i ofalu am iechyd ein planed, mae taer angen polisi a deddfwriaeth feiddgar arnom a fydd yn cefnogi ein hawl i anadlu aer glân.
Cymerwch ein gweithred ar-lein heddiw
Dylai pawb allu cerdded a beicio'n haws o gwmpas ein trefi a dinasoedd heb anadlu mygdarth gwenwynig.
Ymunwch â ni i alw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Aer Glân i Gymru yn ystod y tymor Cynulliad hwn (cyn yr etholiad Cynulliad nesaf ym mis Mai 2021).
Mae'r cynllun aer glân, sy'n dwyn y teitl 'Awyr Iach, Cymru Iach' yn nodi sawl cam gweithredu er mwyn lleihau llygredd aer, ond nid yw'n glir pryd y byddai'r camau hyn yn digwydd, na sut y byddent yn cael eu hariannu.
Rydym mewn argyfwng hinsawdd, ac mae llygredd aer yn achosi argyfwng iechyd cyhoeddus. Mae angen deddfwriaeth arnom cyn gynted ag y bo modd, nid cynllun yn unig.