Mae etholiadau’r Senedd yn nesáu’n gyflym, ac mae ymwybyddiaeth gyhoeddus a gwleidyddol o’r angen i weithredu ar y newid hinsawdd yn uwch nag erioed.
Hoffai Cyfeillion y Ddaear Cymru ofyn i'r prif ddarlledwyr drefnu trafodaeth argyfwng hinsawdd arbennig ar y teledu ar gyfer arweinwyr y prif bleidiau gwleidyddol yng Nghymru.
Mae tymor nesaf y Senedd yn hanfodol ar gyfer penderfynu ar y camau y mae’n rhaid i Gymru eu cymryd i gyrraedd ein targedau lleihau allyriadau hinsawdd a chwarae ein rhan mewn ymdrechion byd-eang i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
Mae'r etholiadau Senedd hyn yn nodi’r tro cyntaf y gall pobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio dros Aelodau’r Senedd. Gyda newid yn yr hinsawdd, yr argyfwng bioamrywiaeth a materion amgylcheddol yn gyffredinol yn peri pryder i bobl ifanc, mae safiad pleidiau gwleidyddol yng Nghymru ar fater mwyaf difrifol a dybryd ein hoes o bwysigrwydd allweddol.
Byddem felly yn gofyn i sianelau teledu yng Nghymru gynnal trafodaeth ar y teledu gan arweinwyr y pleidiau yn y cyfnod cyn etholiadau’r Senedd, i drafod cyfraniadau Cymru i fynd i'r afael â’r argyfwng hinsawdd, ac i hysbysu pleidleiswyr am gamau y bydd pleidiau yn ymrwymo eu hunain i’w cymryd pe byddent yn cael eu hethol ym mis Mai 2021.
Darllenwch ein llythyr agored