80 litr i bob unigolyn bob dydd

Published: 8 Aug 2022

Photo of Bleddyn Lake

Gan Bleddyn Lake
Rheolwr Ymgyrchoedd a Datblygu
Friends of the Earth Cymru

Wrth i ni frwydro gyda’r gwres, cyfnod sych hir, cynnydd enfawr mewn costau byw a phrinder dŵr posibl, mae Rheolwr Ymgyrchoedd a Datblygu Cyfeillion y Ddaear Cymru, Bleddyn Lake, yn edrych ar sut y gallai gosod targed defnydd dŵr gwell newydd yng Nghymru gael llawer o fanteision cadarnhaol. 
Someone turning on a kitchen tap
Llun gan Jacek Dylag on Unsplash

80 litr i bob unigolyn bob diwrnod… wel, nid y teitl mwyaf dengar erioed ond byddwch yn amyneddgar…

Fel arfer, gall Cymru fod yn wlyb iawn! Mae pawb yn gwybod hynny.  

Yng Nghymru, y glawiad cyfartalog yw 1.4 metr y flwyddyn. Mae hyn yn cyfateb i daldra plentyn 8 oed cyfartalog mewn glawiad sy'n gorchuddio Cymru gyfan.

Ond mae ein hinsawdd yn newid, yn gyflym.

On the hottest day on record in the UK, eight fire engines and crews had to brave 100+ degree temperatures whilst tackling a major fire on Shirley Hills (Addington Hills) Peter Trimming / England's Hottest Day / CC BY-SA 2.0
Peter Trimming / England's Hottest Day / CC BY-SA 2.0, July 2022

Mae Swyddfa Dywydd y DU wedi datgan mai mis Gorffennaf eleni oedd y sychaf ers 1935 gyda rhannau o dde ddwyrain Lloegr a East Anglia â’u glawiad isaf ym mis Gorffennaf ers i gofnodion y Swyddfa Dywydd ddechrau yn 1836.

Gyda thymheredd hafaidd llethol yn debygol o fod yn fwy a mwy cyffredin yn y blynyddoedd i ddod, mae'r risg o brinder dŵr difrifol hefyd yn amlwg yn cynyddu.

Ar lefel y DU, mae’r Pwyllgor Seilwaith Cenedlaethol wedi galw am gyflwyno mesuryddion dŵr gorfodol ym mhob cartref yn y DU erbyn 2030. Ar hyn o bryd dim ond tua hanner aelwydydd Cymru a Lloegr sydd â mesurydd dŵr wedi’i osod. Mae ffigurau’n dangos bod cwsmeriaid â mesurydd dŵr yn defnyddio 33 litr yn llai o ddŵr y dydd na’r rhai heb fesurydd dŵr sy’n defnyddio tua 141 litr y dydd ar gyfartaledd.

Mae cwmnïau dŵr wedi bod yn gwneud rhywfaint o gynnydd o ran lleihau faint o ddŵr a gollir oherwydd gollyngiadau ond mae'n debyg bod tua 3 biliwn litr o ddŵr yn dal i gael ei golli bob dydd.

 

 

Faint o ddŵr rydyn ni'n ei ddefnyddio?

Gan ddibynnu ar y ffynhonnell, mae ffigurau yn tueddu i ddangos bod pawb yn y DU yn defnyddio oddeutu 150 litr o ddŵr y dydd.

Os byddwn yn ystyried y dŵr sydd ei angen i gynhyrchu'r bwyd a'r cynhyrchion rydyn ni'n eu defnyddio yn ein bywydau o ddydd i ddydd (a elwir yn ddŵr corfforedig) rydyn ni'n defnyddio mewn gwirionedd tua 3400 litr y dydd.Daw'r swm ychwanegol yn bennaf o'r bwyd rydym yn ei fwyta a'r nwyddau a brynwn (e.e. defnyddir tua 7,600 litr o ddŵr i gynhyrchu un pâr o jîns neu dros 17,000 litr o ddŵr ar gyfer 1kg o siocled).

 

Faint ohonom sydd mewn tlodi dŵr?

Gyda chynnydd erchyll mewn prisiau yn ein biliau ynni a mwy a mwy o bobl yn mynd i dlodi tanwydd, mae angen inni hefyd sicrhau nad yw tlodi dŵr yn cael ei anghofio.

Dywed Water UK fod tua 3 miliwn o gwsmeriaid yn y DU yn cael trafferth talu eu biliau dŵr ar hyn o bryd.

Maent yn diffinio tlodi dŵr fel y gymhareb o incwm aelwydydd sy’n cael ei wario ar filiau dŵr. Mae ganddynt 2 drothwy y maent yn eu mesur, un ar gymhareb o 3% ac un arall ar 5%.

Maent yn amcangyfrif yma yng Nghymru, fod 8.7% o aelwydydd (114,000 o aelwydydd) yn disgyn i’r trothwy 5% a 27.2% (354,000 o aelwydydd) yn disgyn i’r categori 3%.

Er enghraifft, mae'r Cyngor Defnyddwyr Dŵr (CCGC) eisoes yn cynnal ymgyrch yn galw am un Tariff Cymdeithasol ‘a fyddai'n darparu cymorth teg a chyson i aelwydydd incwm isel’.

Os bydd ein patrymau tywydd yn parhau fel y maent, gyda gaeafau gwlypach a gwanwynau a hafau sychach, bydd biliau yn sicr yn parhau i godi wrth i ni o bosibl wynebu brwydr flynyddol i ddarparu digon o ddŵr ar gyfer ein holl anghenion yn ystod hafau poethach hirach.

 

Unrhyw newyddion drwg arall?

Oes….allyriadau ynni a hinsawdd

Yr hyn sy'n llai hysbys efallai yw mai'r diwydiant dŵr yw pedwerydd sector mwyaf ynni-ddwys y DU ac mae Waterwise yn amcangyfrif bod y diwydiant yn gyfrifol am tua 1% o allyriadau carbon y DU.

Mae Dŵr Cymru er enghraifft yn un o’r defnyddwyr ynni mwyaf yng Nghymru (500 GWh yn 2021 i bwmpio a thrin dŵr a dŵr gwastraff) ac ar hyn o bryd mae’n cynhyrchu 20% eu hanghenion ynni eu hunain drwy ynni adnewyddadwy.

Mae'r Sefydliad Siartredig Rheolaeth Dŵr a'r Amgylchedd (CIWEM) yn datgan: ‘Mae maes pwysig o leihau allyriadau yn gysylltiedig â lleihau faint o ddŵr sydd wedi'i drin yn drylwyr y mae angen ei roi mewn cyflenwad’.

Felly yn y bôn, os gallwn dorri i lawr ar faint o dŵr wedi'i drin yn helaeth a ddefnyddiwn, byddwn hefyd yn arbed llawer o allyriadau hinsawdd yn ogystal â'r manteision amlwg o ran arbed dŵr ac arbed arian.

Pwynt trosi defnyddiol, felly, i edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud…

 

Sut gallwn ni leihau ein defnydd o ddŵr?

Er bod mwy o fesuryddion yn synhwyrol, a bod angen i gwmnïau dŵr weithio hyd yn oed yn galetach i leihau gollyngiadau o'u pibellau, mae angen i ni i gyd leihau ein defnydd o ddŵr gartref. Edrychwch ar dudalennau Dŵr Cymru am syniadau a chymorth. Beth arall allwn ni fod yn meddwl amdano?

 

Ailgylchu dŵr llwyd

Toilet with sink built into the cistern
https://returntonow.net/

Unrhyw un yn nabod plymiwr da?

Mae amcangyfrifon presennol yn awgrymu bod tua 30% o’n defnydd dyddiol o ddŵr yn y cartref ar gyfer fflysio toiledau.

Nawr gallem fynd i mewn i'r hen ymadrodd Saesneg ‘if it’s yellow, let it mellow…’  ond gadewch i ni edrych ar rywbeth arall yn gyfan gwbl.

Wel, mae toiledau modern yn defnyddio llai o ddŵr fesul fflysh na rhai hŷn, a gallwch chi bob amser brynu un o’r dyfeisiau hynny sy’n mynd yn y seston i leihau faint o ddŵr rydych chi’n ei ddefnyddio, ond a oes unrhyw beth arall y gallwn ni ei wneud?

Mae bob amser wedi fy nharo fel rhywbeth rhyfedd ein bod yn mynd i'r ymdrech o ddal dŵr, storio dŵr, ei drin, ei bwmpio i gwsmeriaid dim ond er mwyn i'r dŵr yfed hwnnw gael ei ddefnyddio i fflysio toiledau. Ai fi yw'r unig un sy'n meddwl bod hynny'n od ac yn ddiangen??

Yn sicr, mae'n rhaid bod ffordd well?

Beth am ailddefnyddio ein dŵr llwyd? Dyma'r dŵr rydyn ni wedi'i ddefnyddio unwaith (e.e. yn y gawod) felly dydy e ddim yn ffit i'w yfed. Yn bennaf, yn y mwyafrif helaeth o gartrefi, nid ydym yn defnyddio'r dŵr hwn eto ar gyfer unrhyw beth, mae'r cyfan yn mynd i lawr y draen. Gan fod y dŵr hwn yn cynnwys bacteria a allai fod yn niweidiol o ganlyniad i ni ei ddefnyddio unwaith, mae ganddo ddefnydd cyfyngedig (meddyliwch efallai am ddyfrio'r ardd).

Sut ar y ddaear, o ystyried bod dŵr yn adnodd mor bwysig a therfynol, nad ydym wedi canfod ffordd fwy soffistigedig i dai ailddefnyddio o leiaf peth o'r dŵr llwyd hwn?

Os gallwn ddylunio Telesgop Gofod James Webb ac y gallwn roi Exploration Rovers ar blaned Mawrth, yn sicr y gallwn ddarganfod ffordd o ddefnyddio dŵr llwyd i fflysio ein toiledau? Wedi dweud hynny, mae rhai cwmnïau eisoes yn ymchwilio i hyn ac yn Japan maent wedi dwyn y blaen ar hyn drwy gyfuno sinc ar ben seston toiled. Os yw hynny'n swnio'n ddiddorol, edrychwch ar-lein am rai o'r delweddau a fideos!

 

Dychmygwch allu arbed 30% o'n holl ddŵr trwy osod ychydig o offer (mewn ystafelloedd ymolchi newydd ond hefyd wedi'i ôl-ffitio) sy'n cymryd dŵr llwyd, yn ei hidlo ac yn ei lanweithio ac yna'n ei ailddefnyddio i fflysio'r toiled. Efallai bod cyfle yno i gwmni Cymreig fod y rhai i fwrw ymlaen â'r dechnoleg hon neu i un o Brifysgolion Cymru wneud rhywfaint o ymchwil a datblygu arno?

 

Cynaeafu dŵr glaw

Rainwater harvesting picture
https://www.treehugger.com/beginners-guide-to-rainwater-harvesting-5089884

Mae hyn yn gwneud yn union beth mae'n ei ddweud ar y tun. Casglu dŵr glaw. Yn y DU, cydnabyddir ein bod ychydig ar ei hôl hi o ran casglu a defnyddio dŵr glaw. Mae rhai enghreifftiau da o gwmpas Cymru yn amlwg ond os ydym yn gwybod y bydd gennym lawer o ddŵr yn y gaeaf a llawer llai yn yr haf, siawns nad oes angen i ni fod yn edrych ar gynaeafu dŵr glaw ar raddfa llawer mwy nawr? Dylid sefydlu pob cartref ac adeilad masnachol newydd yng Nghymru ar gyfer hyn a dylid gwneud ymdrechion i gynllunio ar gyfer ôl-osod lle bo hynny’n ymarferol.

Mae cynaeafu dŵr glaw hefyd yn cynnig nifer o fanteision eraill gan gynnwys helpu lleihau dŵr ffo stormydd o eiddo yn ystod cyfnodau o law trwm. Gall hyn, yn enwedig mewn tirweddau trefol, helpu lleihau faint o ddŵr sy'n cael ei ollwng i'r prif systemau draeniau a all yn ei dro helpu lleihau rhywfaint o berygl llifogydd.

 

Beth arall allwn ni ei wneud? 

Felly ystyriwch hyn… Gadewch i ni adolygu ein targed defnydd dŵr dyddiol.

Nid yw’r targedau hyn yn beth newydd, maent eisoes yn bodoli.

Yn y DU, mae Defra wedi gosod targed defnydd dŵr cyfartalog o 130 litr y pen y dydd (l/h/d) erbyn 2030. Byddai’r math hwn o ostyngiad (o 150l/h/d i 130 l/h/d) yn arwain at fod angen rhoi llai o ddŵr yn y cyflenwad a chyflawni arbedion carbon cysylltiedig.  

Yng Nghymru, mae gennym darged o 110 litr y person y dydd mewn anheddau newydd.

Swnio'n ddigon teg yn tydi?? Ond…

Wel, ar hyn o bryd mae trigolion Copenhagen yn defnyddio tua 100 litr y person y dydd ac mae trigolion Brwsel eisoes ar 96 litr y dydd y pen.

Mae'r Cod ar gyfer Cartrefi Cynaliadwy (CSH) er enghraifft hefyd yn nodi lefelau defnydd dŵr cyfartalog fesul preswylydd arfaethedig mewn tai newydd, gydag ystod o 120 l/h/d ar gyfer Lefel 1, i 80l/h/d neu lai ar gyfer y lefelau uchaf (5 a 6).  

Byddai'n ymddangos yn synhwyrol ein bod yn gosod targed defnydd dŵr uchelgeisiol fesul person y dydd yma yng Nghymru hefyd.

Byddai targed o 80l/h/d yn ysgogi llawer o’r mesurau arbed dŵr hyn, yn annog cynaeafu dŵr llwyd a dŵr glaw a’r posibilrwydd o gyflwyno technoleg newydd, yn helpu i leihau tlodi dŵr, yn diogelu ein hadnoddau dŵr gwerthfawr ac yn lleihau ein hallyriadau hinsawdd o’r sector hwn.

Heb darged ymestynnol ac uchelgeisiol, rydym yn annhebygol o weld llawer o'r newidiadau sydd eu hangen arnom, yn awr ac yn y tymor hwy.

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru, Dŵr Cymru a rhanddeiliaid eraill yn datblygu targedau defnydd dŵr cenedlaethol llawer cryfach y pen ac yn gweithio i ddatblygu diwylliant arbed dŵr yng Nghymru sydd hefyd yn helpu atal cartrefi incwm isel rhag syrthio i ‘dlodi dŵr’.

 

  

 

 

 

Share this page