Diwrnod Gweithredu Unedig dros Gartrefi Cynnes – adnoddau i grwpiau

Cofio Diwrnod Gweithredu Cynnes y Gaeaf hwn y llynedd? Fe wnaeth rhai ohonom ymgynnull ar risiau'r Senedd fis Tachwedd diwethaf i alw am weithredu ar frys ar gartrefi cynnes.
Eleni, mae'r ffocws ar Aelodau Seneddol yn hytrach nag Aelodau'r Senedd - rydym yn annog grwpiau gweithredu lleol Cyfeillion y Ddaear yng Nghymru i ysgrifennu e-bost at eu Haelod Seneddol neu gyfarfod â nhw i gael tynnu llun y gellir ei rannu wedyn ar y cyfryngau cymdeithasol.
COFRESTRWCH AR GYFER Y DIWRNOD GWEITHREDU
Yn flaenorol, roedd yr ymgyrch Cartrefi Cynnes yng Nghymru yn canolbwyntio ar Lywodraeth Cymru a'r Senedd. Gan weithio gyda Climate Cymru (sy'n arwain ymgyrch Cynnes y Gaeaf hwn yng Nghymru), trefnwyd deiseb i Lywodraeth Cymru a gwnaeth llawer o Aelodau'r Senedd addewid i gadw pobl yn gynnes y gaeaf hwn, ac yn y gaeafau sydd i ddod.
Yn y cyfnod yn arwain at gyhoeddiad Julie James ar y rhaglen Cartrefi Cynnes, y nod oedd rhoi pwysau ar yr adeg gywir i sicrhau ei bod yn ddigon uchelgeisiol. Ac fe weithiodd - darllenwch y stori hon i ddarganfod mwy!
O ran tlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni, dim ond hyn a hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud. Dyna pam rydym wedi symud ein ffocws at Lywodraeth y DU a Senedd y DU.
Mae gwleidyddion eisoes yn paratoi ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf, y mae'n rhaid ei gynnal erbyn Ionawr 2025, ac a allai ddigwydd yn gynharach!
Beth all grwpiau ei wneud?
Os ydych yn aelod o grŵp gweithredu lleol Cyfeillion y Ddaear yng Nghymru, ac yr hoffech gymryd rhan, dyma rai camau y gallwch eu cymryd:
- Cofrestrwch i gymryd rhan yn y Diwrnod Gweithredu
- Cefnogwch yr ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol - beth am lawrlwytho'r pecyn cymorth cyfryngau cymdeithasol?
- E-bostiwch eich AS i ofyn iddynt gefnogi'r ymgyrch yn gyhoeddus. Defnyddiwch y nodyn briffio templed hwn i ddweud wrthyn nhw am yr hyn rydyn ni'n galw amdano.
- Trefnwch i gael tynnu llun gyda'ch AS y tu allan i'w swyddfa a'i rannu ar y cyfryngau cymdeithasol - archebwch bosteri a placardiau i'w defnyddio yn eich llun yma (nodwch fod angen pythefnos o rybudd arnom i bacio ac anfon eich archebion.)
- Os oes gennych chi ddigon o amser, ac yn teimlo fel bod yn grefftus, beth am drefnu digwyddiad neu gwilt cymunedol? Gallech hyd yn oed ysgrifennu at olygydd papur newydd, gan ddefnyddio'r templed hwn.
Am fwy o wybodaeth, ewch i'r wefan hon
A pheidiwch â phoeni os nad yw'ch grŵp wedi trefnu deiseb i'ch AS, ac nad yw'n gallu trefnu digwyddiad Diwrnod Gweithredu neu gwilt cymunedol. Fel y gwelwch o'r uchod, mae llawer o bethau eraill y gall eich grŵp eu gwneud, hyd yn oed os mai dim ond e-bostio eich AS a/neu gefnogi'r ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol yw hynny!