"Cymru fydd 'Cenedl Ail-lenwi' gyntaf y Byd" - ein hymateb

Published: 16 May 2018

Mae Cyfeillion y Ddaear yn croesawu’r ystod o fesurau a gyhoeddwyd ddoe (8 Mai 2018) gan Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylched, sydd â’r nod o ‘atgyfnerthu enw da Cymru fel y genedl orau yn y DU am ailgylchu a lleihau gwastraff’. 

Mewn datganiad i’r wasgcadarnhaodd y Gweinidog y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda DEFRA a gweinyddiaethau datganoledig eraill ar gynllun dychwelyd ernes ar lefel y DU ar gyfer cynwysyddion diodydd a diwygiadau i’r Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio).  Mae’r Llywodraeth hefyd yn ystyried treth, ardoll neu dâl ar gwpanau diodydd untro yng Nghymru. 

 

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Half Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru: 

 

“Mae Cymru wedi cymryd camau breision ymlaen gydag ailgylchu yn y blynyddoedd diwethaf, ond gallwn wneud yn well.  Mae ailgylchu yn bwysig, ond mae angen i ni leihau faint o wastraff rydym yn ei gynhyrchu yn y lle cyntaf.  Gŵyr pob un ohonom y niwed difrifol y mae llygredd plastig yn ei gael ar ein moroedd a’n bywyd gwyllt, a’r effaith mae creu plastig yn ei gael ar ein hinsawdd. 

 

Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i leihau ein defnydd o blastig, ac yn y pen draw rhoi’r gorau i ddefnyddio plastig ar gyfer popeth, heblaw am y defnyddiau mwyaf hanfodol.  Rydym yn falch bod y Gweinidog wedi ymrwymo i weithredu a’i bod yn ystyried Cynllun Dychwelyd Ernes, treth ar gwpanau untro a rhoi mwy o gyfrifoldeb ar gynhyrchwyr a busnesau.  Mae angen i ni weithredu ar frys.  Cymru arweiniodd y ffordd gyda chodi tâl am fagiau plastig ac ailgylchu - gadewch i ni wneud yr un peth gyda phlastigion a defnydd pacio.” 

  

Am ragor o wybodaeth am y mesurau hyn, a mesurau eraill, darllenwch Datganiad i’r Wasg Llywodraeth Cymru. 

  

Mae plastig yn prysur ddod yn fygythiad mwyaf ein cenhedlaeth ni i’r amgylchedd.  I leihau ein dibyniaeth arno, mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn galw am wahardd plastigau untro, ardoll ar blastigau diangen a chynllun dychwelyd ernes. 

 

Share this page