Cannoedd yn wynebu marwolaeth gynnar oherwydd llygredd Aberddawan

Published: 15 Sep 2016

Mae hyd at 400 o bobl yn cael eu lladd yn flynyddol oherwydd llygredd aer o bwerdy Aberddawan. Dyna un o gasgliadau adroddiad newydd o Gyfeillion y Ddaear a Greenpeace, sy'n dangos bod y llygredd gwenwyneg yn lledu cyn belled â Ffrainc, Gweriniaeth Iwerddon ac ar draws deheubarth ynys Prydain

Mae'r marwolaethau yma yn costio cymdeithas mwy na £220 miliwn pob blwyddyn. Bydd costau pellach yn gysylltiedig â'r llygredd, sy'n achosi 195,000 o ddyddiau o salwch pob blwyddyn, 3,400 o achosion o symptomau'r fogfa, 260 o achosion o fronchitis mewn plant, 290 o ymweliadau i'r ysbyty a 20 o fabanod â phwysau geni isel. 

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi amcangyfrif bod cymdeithas ar ei cholled o £950 miliwn oherwydd effeithiau y llygredd ar iechyd a'r amgylchedd. 

Dywedodd Gareth Clubb, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:

“Mae effaith y llygredd o bwerdy Aberddawan yn drawiadol. Mae'r llygredd o'r orsaf bŵer hon wedi cwtogi bywydau miloedd o bobl - gyda llawer o'r rheiny yma yng Nghymru. 

“I roi halen yn y briw, mae Aberddawan wrthi'n casglu degau o filiynau o bunnoedd o bawb sy'n talu biliau trydan er mwyn aros ar agor yn 2019. Rydym oll yn llythrennol yn talu er mwyn i'r orsaf bŵer yma llygru Cymru am flynyddoedd i ddod. 

“Mae'n dangos yn glir bwysigrwydd cadw at ein deddfwriaeth amgylcheddol ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae pobl yn eu miloedd wedi arwyddo'n deiseb yn gofyn ASau i amddiffyn ein deddfwriaeth amgylcheddol - ond mae gwir angen miloedd yn fwy i'w llofnodi.

“Mae graddfa anferthol y llygredd, y cannoedd o farwolaethau diangen pob blwyddyn, a'r niwed a achosir i ysgyfaint ein plant yn gadael ond un datrysiad. 

“Mae'n rhaid i orsaf bŵer Aberddawan gau”.

Meddai ymgyrchydd llygredd aer Greenpeace Areeba Hamid:

"Mae llygredd o'r pwerdy glo yma yn gwaethygu argyfwng iechyd cyhoeddus sy'n effeithio ar ddegau o filoedd o bobl ledled Prydain. Mae rheolau ansawdd aer yr Undeb Ewropeaidd yn effeithiol iawn wrth bwyso ar lywodraeth i weithredu, ond mae gadael yr Undeb yn eu rhoi yn y fantol. Mae cyfrifoldeb ar ein llywodraethau i sicrhau na fydd pobl yn gorfod anadlu lefelau anghyfreithlon o lygredd aer. Dyle Gweinidogion darparu Deddf Aer Glan newydd er mwyn mynd i'r afael â llygredd aer a gwarchod ein hiechyd ninnau a iechyd ein plant".

Share this page