Beth yw cyfiawnder hinsawdd?

Mae cyfiawnder hinsawdd bellach yn derm poblogaidd mewn protestiadau a streiciau. Ond beth mae’n ei olygu, sut y mae’n fater “gwyrdd” a pham ydym yn canolbwyntio arno yn awr? Darllenwch ein hesboniad a gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwreiddio cyfiawnder hinsawdd mewn digwyddiadau ymgyrchu a gweithredu yn eich ardal chi.

 

Ym mis Tachwedd 2021, bydd y DU yn cynnal Trafodaethau’r Cenhedloedd Unedig ar yr Hinsawdd. Dyma gyfle euraid i roi blaenoriaeth i faterion hinsawdd rhyngwladol a cheisio ymrwymiadau cryf gan arweinwyr y byd.

Hefyd, bydd yn gyfle i fyfyrio ar gyfrifoldeb hanesyddol cyn-wledydd trefedigaethol sydd wedi camddefnyddio adnoddau’r byd, a gwneud iawn am yr anghyfiawnder a bentyrrwyd ar wledydd tlotach o ganlyniad i hynny. Wrth inni geisio ymwreiddio cyfiawnder hiliol a gwrth-hiliaeth yn ein gwaith, rŵan yw’r adeg i ddysgu mwy am gyfiawnder hinsawdd. 

 

Cyfiawnder hinsawdd: esboniad byr 

Mae cyfiawnder hinsawdd yn cydnabod bod yr argyfwng hinsawdd yn broblem gymdeithasol a gwleidyddol, yn ogystal ag yn broblem amgylcheddol. Mae’n cydnabod bod gwahanol gymunedau’n teimlo effeithiau’r argyfwng hinsawdd mewn gwahanol ffyrdd, a bod y cyfrifoldeb dros yr argyfwng yn gorwedd yn fwy gyda rhai gwledydd a chwmnïau nag eraill. Hefyd, mae’n deall bod bywydau’r rhai sydd eisoes yn wynebu anghyfiawnder a gorthrwm – fel y gymuned LGBTQI+ yn Jamaica, er enghraifft – yn cael eu gwneud yn anos yn sgil effeithiau’r argyfwng hinsawdd. 

Mae a wnelo cyfiawnder hinsawdd â chydnabod y cydgysylltiad rhwng ymdrechion, ac wrth wneud hynny, ymladd am atebion i’r argyfwng hinsawdd – atebion a fydd nid yn unig yn lleihau allyriadau, ond yn creu byd tecach a mwy cyfiawn hefyd. 

Yng ngeiriau Disha Ravi, y gweithredwr o India:
“Mae a wnelo cyfiawnder hinsawdd â thegwch croestoriadol. Ei hanfod yw cynnwys pob grŵp o bobl, er mwyn i bawb allu cael aer, bwyd a dŵr glân. Ys dywed cyfaill annwyl, ‘nid rhywbeth i’r cyfoethog a’r gwyn yn unig yw cyfiawnder hinsawdd’. Mae’n golygu ymladd ochr yn ochr â’r rhai sydd wedi’u dadleoli; y rhai y mae eu hafonydd wedi’u gwenwyno; y rhai y cafodd eu tiroedd eu dwyn; y rhai sy’n gwylio’u tai yn cael eu golchi ymaith bob tymor; a’r rhai sy’n ymladd yn ddiflino dros hawliau dynol sylfaenol.” 

 

Sut y mae’r hinsawdd yn effeithio’n wahanol ar bobl? 

“Nid ydym yn dweud mai ar bobl Dduon yn unig y mae newid hinsawdd yn effeithio. Fodd bynnag, cymunedau yn y De Byd-eang sy’n dioddef canlyniadau gwaethaf newid hinsawdd, boed hynny mewn ffyrdd ffisegol – fel llifogydd, diffeithio, mwy o brinder dŵr, corwyntoedd – neu mewn ffyrdd gwleidyddol: fel gwrthdaro a ffiniau hiliol.” Alexandra Wanjiku Kelbert – Mae Bywydau Du o Bwys y DU.  

Rhywbeth sy’n ganolog i gyfiawnder hinsawdd yw deall mai’r rhai sydd wedi cyfrannu leiaf at achosi chwalfa’r hinsawdd yw’r rhai sy’n dioddef yr effeithiau gwaethaf, fel llifogydd, sychder, cynnydd yn lefel y môr a thywydd poeth. 

Mae natur anghymesur chwalfa’r hinsawdd yn effeithio ar bobl groenliw, merched, pobl LBGTQI+, pobl anabl, y dosbarth gweithiol a phobl dlawd. Yn ôl Rhaglen Ddatblygu’r Cenhedloedd Unedig, er enghraifft, merched yw 80% o’r bobl sydd wedi’u dadleoli oherwydd newid hinsawdd, ac mae merched yn fwy tebygol o farw neu o ddioddef niwed oherwydd tywydd eithafol neu drychinebau naturiol. 

Gwledydd yn y De Byd-eang ac mewn cymunedau incwm isel yn y gogledd diwydiannol sy’n dioddef waethaf yn sgil dewisiadau a wnaed gan ddosbarthiadau elitaidd mewn gwledydd cyfoethocach i gamddefnyddio ac afradu adnoddau’r byd. 

Gellir dadlau mai dyma’r anghyfiawnder mwyaf sy’n perthyn i’r argyfwng hinsawdd. 

 

Y ‘storm berffaith’ 

“Mae newid hinsawdd yn cymryd unrhyw broblem sydd gennych yn barod, unrhyw fygythiad sydd eisoes yn hofran uwch eich pen, ac yn eu lluosogi. Nid ‘y cyfartalwr mawr’ mo newid hinsawdd, ond ‘y lluosogwr mawr’.” Mary Annaise Heglar. 

Dros y canrifoedd, mae systemau gormesol, fel trefedigaethedd a dad-ddyneiddio pobl groenliw a phobloedd frodorol mewn modd systematig, wedi hwyluso’r arfer o echdynnu adnoddau naturiol ac wedi caniatáu difrod parhaus i’r amgylchedd. 

Yn yr un modd ag y mae cyn-bwerau trefedigaethol yn dal i elwa’n ariannol ar gamddefnyddio adnoddau a phobl rhanbarthau eraill, mae’r bobl a gafodd eu trefedigaethu yn dal i ddioddef y canlyniadau economaidd, ac o’r herwydd nid ydynt yn ddigon cymwys i ddelio ag effaith andwyol chwalfa’r hinsawdd. 

Ymhellach, mae systemau anghyfiawn sy’n dal i ysgogi chwalfa’r hinsawdd, fel twf economaidd costied a gostio, yn gwaethygu’r gorthrwm sydd eisoes yn bod ac yn gwthio cymunedau tlawd a bregus fwyfwy i’r cyrion. Golyga hyn fod nifer o bobl yn wynebu sawl argyfwng, gan ei gwneud hi’n anos iddynt ddelio ag effeithiau chwalfa’r hinsawdd, heb sôn am gael dweud eu dweud pan ddaw hi’n fater o lunio’r atebion. 

 

Cyfrifoldeb hanesyddol a dyled hinsawdd 

Rhwng 1850 a 2011, yr Unol Daleithiau a gwledydd yr UE oedd yn gyfrifol am 79% o’r allyriadau newid hinsawdd. Er nad yw’r DU yn un o’r allyrwyr mwyaf erbyn hyn, mae ganddi achos sylweddol i’w ateb yn sgil bod yn un o’r allyrwyr gwaethaf yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Ar ben hyn, rydym ar hyn o bryd yn allforio llawer o’n hallyriadau trwy symud prosesau gweithgynhyrchu dramor a thrwy fewnforio nwyddau.  

Rhaid i wledydd fel Ffrainc, y DU a Gwlad Belg wynebu eu cyfrifoldebau hanesyddol, moesol a chyfreithiol. Mae hyn yn golygu ystyried yr allyriadau ers iddynt ddechrau llosgi tanwyddau ffosil, nid y lefel bresennol yn unig. Er mwyn helpu i wneud iawn am eu hallyriadau hanesyddol, dylai gwledydd cyfoethog roi cymorth ariannol a thechnegol i wledydd y De Byd-eang er mwyn eu helpu i addasu i effeithiau chwalfa’r hinsawdd, a’u lliniaru. 

Nid rhwymedigaeth foesol yn unig yw cyllid hinsawdd, ond rhwymedigaeth gyfreithiol. Mae Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd (UNFCCC) yn nodi bod yn rhaid i wledydd cyfoethog sydd â chyfrifoldeb hanesyddol dros achosi’r argyfwng roi cymorth ariannol i helpu gwledydd tlotach i leihau eu hallyriadau ac addasu i’r effeithiau. Cafodd yr egwyddor hon ei hailddatgan yng Nghytundeb Paris yn 2015.

 

COP26 a chyfiawnder hinsawdd 

Mae’r trafodaethau hinsawdd a gynhelir yn Glasgow ym mis Tachwedd 2021 yn gyfle unigryw i ymwreiddio egwyddorion cyfiawnder hinsawdd yn ein gwaith – gan sicrhau trefniadau teg, cyfiawn a chyflym ar gyfer pontio oddi wrth danwyddau ffosil. Yn benodol, mae hyn yn golygu: 

  • Dwyn y llywodraeth i gyfrif pan mae’n hawlio ei bod ar flaen y gad o ran lleihau allyriadau heb ystyried ei chyfraniad hanesyddol. 
  • Sicrhau na fydd atebion i’r argyfwng hinsawdd yn dwysáu anghyfiawnderau presennol – a sicrhau mai’r rhai sy’n dioddef waethaf fydd yn elwa gyntaf. 
  • Rhoi cymorth ariannol rhyngwladol i helpu gwledydd eraill i leihau eu hallyriadau ac addasu i effeithiau’r hinsawdd. 
  • Cefnogi trefniadau pontio cyfiawn ar gyfer rhoi’r gorau i ddefnyddio glo, olew a nwy, fel na fydd y gweithwyr sy’n dibynnu ar ddiwydiannau budr yn cael eu gadael ar ôl. 
  • Ac yn hollbwysig, gwrando ar leisiau pobl y De Byd-eang, pobl Frodorol a chymunedau rheng flaen, gan roi lleisiau cryfach iddynt. 

 

Atebion sy’n seiliedig ar gyfiawnder 

Hanfod cyfiawnder hinsawdd yw dod o hyd i atebion i’r argyfwng hinsawdd – atebion a fydd nid yn unig yn lleihau allyriadau neu’n diogelu byd natur, ond a fydd yn gwneud hynny mewn modd a all arwain at fyd tecach, mwy cyfiawn a mwy cyfartal. Anghyfiawnder yw gwir achos yr argyfwng hinsawdd, felly rhaid i’r arfer o ymladd dros gyfiawnder fod wrth galon a chraidd yr atebion. 

Mae defnyddio dull sy’n seiliedig ar gyfiawnder i leihau allyriadau yn golygu na ddylid gadael neb ar ôl wrth bontio i economi carbon isel. Mae hyn yn cynnwys trefniadau pontio lle caiff anghenion sylfaenol pawb o ran tai, cludiant, ynni a gwaith teg, eu bodloni. Er enghraifft, mae trefniadau pontio cyfiawn ar gyfer gweithwyr mewn sectorau uchel eu carbon yn golygu helpu’r gweithwyr hynny i ddod o hyd i swyddi da mewn sectorau isel eu carbon, lle ceir safonau llafur uchel a chyflogau teg. 

Felly, pan fyddwch yn mynd ati’r tro nesaf i weithio ar atebion sy’n gydnaws â’r hinsawdd, gofynnwch i chi eich hun, “a fydd yr atebion hyn yn dda i bobl ac yn dda i’r blaned?” 

 

Darllen pellach
 

Rhanwch yr tudalen hwn

Eisiau sicrhau newidCymrwch Rhan neu Rhoddwch i ni