Ydy hi'n amhosib i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif?

Published: 5 May 2016

Un o leisiau pennaf yn erbyn cynlluniau M4 Llywodraeth Cymru mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wastad wedi bod. Ond fel cefnogwyr brwd i ddemocratiaeth a llywodraethiant da, rydym yn disgwyl safonau penodol gan y llywodraeth a'i Gweinidogion. A phan bo diffyg yn y safonau hynny, disgwyliwn allu dwyn y llywodraeth i gyfrif. 

Dyma hanes ein methiant i wneud.

Ym mis Medi 2015 cynhaliwyd arddangosfeydd gan Lywodraeth Cymru i hybu ei dewis o'r Ffordd Ddu (traffordd i'r de o Gasnewydd). Cost yr arddangosfeydd oedd £289,527

Bu pryderon mawr â ni ynghylch y gwybodaeth a ymddangosodd. Ein disgrifiad o'r gwybodaeth oedd "deliberately deceitful", sydd mor agos â galw'r llywodraeth o fod yn gelwyddgi ag sy'n gwrtais. Ym mhob un achos, buon nhw'n gwyro'r dystiolaeth neu ddewis y ffigyrau oedd yn eu plesio nhw fwyaf, nid dewis y rhai oedd yn rhoi'r darlun cywir. Dyma grynodeb o'n pryderon. 

Felly aethon ati i ddwyn y llywodraeth i gyfrif. 

Y cam cyntaf oedd i gasglu'r ohebiaeth rhwng y Gweinidog a rheolwr y prosiect er mwyn gweld a oedd y Gweinidog wedi pwyso ar weision sifil iddynt ddewis ffigyrau anwir. Ond mae system rheoli ebost Llywodraeth Cymru yn eich gorfodi i ddyfalu ble - o blith nifer anhysbys o ffolderi dienw - trigai'r gwybodaeth:

Ar ran/On Behalf Of ES&[email protected]

Annwyl Mr Clubb,

Diolch am eich ymholiad.  Mae yna nifer o wahanol ffolderi lle y gall y negeseuon e-bost o dan sylw cael eu cadw.  Mae rhai ffolderi yn ymwneud â phrosiectau, rhai ddim.  A fyddech cystal a disgrifio’r wybodaeth yr ydych yn chwilio amdani yn benodol, er enghraifft e-bost penodol ar agwedd benodol o brosiect penodol.  Buasai’n help os byddwch mor gywir â phosibl yn eich disgrifiad, gan ganolbwyntio ar y wybodaeth yr ydych yn credu sydd gennym, fel y gallwn chwilio amdani. 

E-bost penodol ar agwedd penodol o brosiect penodol?!

Wedi methu cael gafael ar yr ohebiaeth (sef ei hun yn destun cwyn â'r Comisiynydd Gwybodaeth), cwynon i'r Awdurdod Safonau Hysbysebiadau. Ond dyfarniad yr ASH oedd: oherwydd nad oedd y llywodraeth yn 'gwerthu' dim byd, nid oedd modd iddo ymchwilio. 

Yn y cyfamser, cwynon ni i Lywodraeth Cymru gan ddenfyddio'r system cwyno mewnol. Ond er bod hi'n anodd dirnad, y swyddog sy'n penderfynu a oes drwgwethrediad wedi bod o fewn y llywodraeth ydy'r Gweinidog ei hun - oedd wrth gwrs y person (a'i gweision sifil) roeddem yn cwyno yn eu cylch. Dim syndod, felly, ei bod wedi darganfod nad oedd achos i'w ymchwilio.  

Felly cwynon i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.Prif seiliau ein cwyn oedd:

  • Methiant y llywodraeth i ymchwilio mewn ffordd drylwyr a dilys
  • Bod y broses yn ffaeledig achos (yn yr achos hon) goddrych y gwyn oedd hefyd y sawl oedd yn dyfarnu

Casgliad yr Ombwdsmon oedd nad oedd hi'n bosib ymchwilio sail y cyhuddiad (ystadegau cam), a bod y corff priodol i ymchwilio methiant honedig i ddilyn Côd Ymddygiad yw'r corff hwnnw.  

Gofynon ni wrth yr Awdurdod Ystadegau a allen nhw ddyfarnu dilysrwydd ystadegau Llywodraeth Cymru. Ond er yn cydymdeimlo â'n pryderon, eu gorchwyl priodol yw "ystadegau swyddogol" sy'n cydymffurfio â safonau tynn. Wrth reswm, doedd ystadegau simsan Llywodraeth Cymru yn yr achos hon ddim yn dod o fewn eu cylch gwaith. Ond ysgrifennon nhw at Bennaeth Ystadegau Llywodraeth Cymru i'w atgoffa o Gôd Arfer Ystadegol Da. 

Codon ni ein pryderon ynghylch y gwaraint o bron i £300,000 ar wybodaeth ffug â Swyddfa Archwilio Cymru. A nid yn unig y £300k, ond y bosibilrwydd o wastraffu £2.3 biliwn ychwanegol, yn enwedig petai gogwydd yn y farn gyhoeddus fel canlyniad y gwybodaeth gamarweiniol. Cawsom ein diolch am godi'r pwnc, ond "dylid cofio nid yw cwestiynu rhinweddau amcanion polisi y cyrff a archwilir gan yr Archwilydd Cyffredinol yn un o swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol na Swyddfa Archwilio Cymru".

Codwyd y pwnc gan Eluned Parrot ar lawr y Senedd. Holodd "A yw’r wybodaeth yn y llyfryn hwn a’r arddangosfa yn gynrychiolaeth gywir, fanwl a theg o’r ffeithiau ynglŷn â ffordd liniaru’r M4?". Ymateb y Gweinidog oedd "Mae yna bobl sy’n dweud nad ydyw ac yn ôl pob tebyg, maent wedi eich lobïo chi’n briodol, ond caf fy sicrhau gan fy swyddogion ei fod" 

Nid rhyw drafodaeth astrus ystadegol mo hon. Mae'n egwyddor sylfaenol bwysig ynghylch y gwirionedd, tryloywder a chyfiawnder naturiol. A phendraw posib y daith yw traffordd 6-lôn yn tyrchu trwy bump SSSI ac erwau o diroedd gleision yn gyfoeth o fywyd gwyllt. 

Hyd y gwyddom, rydym wedi ceisio pob modd posib i ddwyn y llywodraeth i gyfrif. Yn siomedig, yr unig gasgliad ar ôl yw ei bod yn amhosib gwneud. 

Ond yfory...?

Share this page