Straeon llwyddiannus

Ers ei sefydlu ym 1984, mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi cael llawer o fuddugoliaethau gwarchod yr amgylchedd, gan weithio gyda chymunedau Cymru a'n grwpiau lleol.

Glaw Asid y 1980au

Ym 1984, cymerodd Cyfeillion y Ddaear Cymru rôl flaenllaw mewn creu mwy o ymwybyddiaeth o broblem glaw asid. Fe wnaethom helpu i ysgogi gostyngiadau mewn allyriadau llygru yng Nghymru.

 

Ehangu ffyrdd 1990au­-2009

Fe wnaeth ymgyrchoedd cryf  drechu nifer o brosiectau adeiladu ffyrdd diangen, o ffyrdd osgoi trwy Eryri yn yr 1990au cynnar, i wneud yr A40 yn ffordd ddeuol yng ngorllewin Cymru, a phriffordd anferthol Gwastadeddau Gwent yn 2009.

 

Diogelu bywyd morol 1995

Fe wnaeth cwyn a gyflwynwyd i Ewrop, ar y cyd â Chyfeillion Bae Aberteifi, i ddiogelu’r cynefin morol cyfoethog hwn, orfodi llywodraeth y DU i’w gwneud hi’n ofynnol cynnal asesiadau effaith amgylcheddol i ddrilio am olew a nwy yn holl ddyfroedd y DU.

 

Erlyniad y Sea Empress 1995

Yn dilyn gollyngiad olew y Sea Empress yn Aberdaugleddau ym 1996, fe wnaethom gasglu tystiolaeth o raddau’r niwed amgylcheddol a pharatoi achos cyfreithiol. Ymgymerodd Asiantaeth yr Amgylchedd â’r achos, ac erlyn Awdurdod y Porthladd yn llwyddiannus ym 1999.

 

Trechu’r tanwydd "mwyaf budr" 1997

Llwyddodd ymgyrch yn erbyn cynlluniau gorsaf bŵer yn Sir Benfro i losgi orimulsion, a ddisgrifir fel tanwydd mwyaf budr y byd, ochr yn ochr â galwadau i gael mwy o gefnogaeth ar gyfer systemau ynni effeithlon ac ynni adnewyddadwy.

 

Cymru’n rhydd rhag GM 2000

Lansiwyd ein hymgyrch i gadw Cymru’n rhydd rhag unrhyw gnydau a addaswyd yn enetig a chefnogi ffermio ecogyfeillgar ym 1999, ac fe’i cefnogwyd yn unfrydol gan Aelodau Cynulliad Cymru y flwyddyn ddilynol. Diweddariad: Cymru’n rhydd rhag GM o’r diwedd, wrth i Lywodraeth Cymru wneud cais am waharddiad ar yr holl gnydau ym mis Hydref 2015. 

 

Cefnogi ynni gwynt 2000au

Fe wnaeth chwalu chwedlau am bŵer gwynt, ac ymgyrchoedd a oedd yn cefnogi prosiectau penodol, helpu i ennill ynni gwyrdd, glân o ffermydd gwynt yng Nghefn Croes (2002), Tir Mostyn (2002), Gwynt y Môr (2009) a Wear Point (2010).

 

Suddo Morglawdd Hafren 2010

Fe wnaeth yr ymgyrch hir yn erbyn y Morglawdd Hafren mawr o Gaerdydd i Weston, lwyddo o’r diwedd. Anogwyd y Llywodraeth i gefnogi ffyrdd llai niweidiol i ddefnyddio potensial ynni moryd Hafren.

 

Newid yn yr Hinsawdd 2010

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru, ar ôl bod y cyntaf yn y byd i osod targedau blynyddol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ar ôl lobïo parhaus, gyflwyno cynllun gweithredu a oedd yn cynnwys nifer o’n hargymhellion.

 

Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i Gynllun Gweithredu Cenedlaethol Peillwyr 2013

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu hymrwymiad i lunio Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Peillwyr - ymateb uniongyrchol i brif ofyniad ein hymgyrch. Newyddion gwych i wenyn (yng Nghymru o leiaf!), a hefyd, ar gyfer yr ymgyrch ei hun, sy’n ceisio newid meddylfryd y cyhoedd a gwleidyddion am bwysigrwydd hanfodol bioamrywiaeth. 

 

Rali Cymru yn Erbyn Ffracio 2014

Trefnodd Cyfeillion y Ddaear Cymru rali yn y Senedd, ddydd Sadwrn, 11 Hydref, mewn cydweithrediad â Frackfree Wales. Fe wnaethom gyflwyno dros 1,000 o gardiau deiseb yn gofyn i Lywodraeth Cymru am foratoriwm ar ffracio yng Nghymru. Roedd cannoedd o bobl yn bresennol.

 

Bydd cyfraith arloesol newydd yng Nghymru yn helpu i ddiogelu pobl a’r amgylchedd, 17 Mawrth 2015

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn ddiweddglo tair blynedd o ymgyrchu gan y Gynghrair Datblygu Cynaliadwy - sef cynghrair o 30 o sefydliadau, sy’n cynnwys Cyfeillion y Ddaear Cymru. Mae’n gyfraith arloesol, newydd, sy’n gosod dyletswydd glir ar gyrff cyhoeddus i roi lles tymor hir pobl, natur a chenedlaethau’r dyfodol wrth galon gwneud penderfyniadau. Bydd y gyfraith hon yn dod i rym yn llawn ym mis Ebrill 2016.

 

Nant Llesg 2015

Yn dilyn ymgyrch hir gan United Valleys Action Group, Cyfeillion y Ddaear Merthyr Tudful a chymunedau lleol, fe wnaeth Cyngor Sir Caerffili wrthod cais cynllunio ar gyfer glofa glo brig newydd, enfawr yn Nant Llesg, ger Merthyr Tudful. Gwrthodwyd y cynnig i dynnu chwe miliwn tunnell o lo o safle 478 erw dros 14 mlynedd, ar sail effaith weledol, trwy gael 12 pleidlais yn erbyn a dau yn ymatal.  

Rhanwch yr tudalen hwn

Tumblr Facebook Twitter Email Addthis
Eisiau sicrhau newidCymrwch Rhan neu Rhoddwch i ni