Ynni

Mae mynd i'r afael â newid hinsawdd yn golygu newid y modd yr ydym yn cynhyrchu ynni, a bod yn fwy effeithlon yn y modd yr ydym yn ei ddefnyddio.

Rhaid i ni dorri ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil sy'n achosi newid hinsawdd peryglus, ac yn lle hynny ddatblygu ffynonellau pŵer glân ac adnewyddadwy.

Yng Nghymru mae gennym adnoddau ynni gwynt a morol enfawr. Yn union fel ag y gwnaeth ein glo unwaith arwain y chwyldro diwydiannol, gallem arwain y chwyldro ynni adnewyddadwy a thechnoleg werdd - ac elwa ar y manteision economaidd.

Tanwydd ffosil

Mae llosgi tanwydd ffosil (megis, glo, nwy ac olew) mewn gorsafoedd pŵer yn gyfrifol am 36% o allyriadau nwy tŷ gwydr yng Nghymru - y ffynhonnell fwyaf o'r nwyon newid hinsawdd hyn.

Dylai gorsafoedd pŵer llosgi nwy a glo yng Nghymru ddim ond mynd yn eu blaen os ydynt yn effeithlon iawn, gyda Gwres a Phŵer Cyfun (CHP) sy'n defnyddio'r trydan a'r gwres a gynhyrchir. Ni ddylai fod yna byllau glo brig newydd, megis Ffos-y-Fran ym Merthyr Tudful, sy'n allyrru llwch a llygredd, yn achosi problemau sŵn ac yn creithio'r dirwedd.

Effeithlonrwydd Ynni

Effeithlonrwydd ynni yn ein cartrefi a'n busnesau yw'r ffordd fwyaf cost effeithlon o leihau allyriadau. Gall ceisio sicrhau effeithlonrwydd ynni hefyd gynorthwyo i greu a diogelu miloedd o swyddi yng Nghymru, lleihau tlodi tanwydd a gwella iechyd.

Mae mesurau effeithlonrwydd ynni wedi cynorthwyo Cymru i leihau ei defnydd ar drydan gan 10%, a'n defnydd ar nwy gan 23% dros y pum mlynedd diwethaf.

Ynni adnewyddadwy

Mae polisi ynni Llywodraeth Cymru wedi datgan potensial Cymru ar gyfer ynni adnewyddadwy i gynhyrchu hyd at ddwbl y trydan a ddefnyddir gennym erbyn 2025.

O holl wledydd Ewrop, y DU sydd â'r potensial mwyaf o ran ynni gwynt. Ynni gwynt yw un o'r mathau glanaf, diogelaf a mwyaf cost effeithiol o ynni sydd i'w gael. Hwn yw'r ynni adnewyddadwy mwyaf technolegol ddatblygedig, a gall gyflawni toriadau mawr eu hangen mewn allyriadau CO2 nawr.

Mae gan Gymru hefyd amodau delfrydol ar gyfer pŵer llanw a thonnau. Gallai cynlluniau llanw peilot cyfredol yn y moroedd oddi ar Sir Benfro ac Ynys Môn roi blaen technolegol i Gymru, gan greu swyddi a sicrwydd ynni tra'n lleihau allyriadau carbon.

Gall biomas - cynhyrchu gwres a thrydan drwy losgi deunyddiau biolegol megis gweddillion coedwigaeth a gwastraff organig - fod yn ffynhonnell ddefnyddiol o ynni carbon isel. Fodd bynnag, mae'n hanfodol bod y deunydd a losgir yn dod o ffynonellau cynaliadwy, lleol a'i fod yn deillio ar wir leihad mewn allyriadau o gymharu â thanwydd ffosil. Rydym yn gwrthwynebu gorsafoedd pŵer biomas gan nad yw llosgi pren yn ffordd gynaliadwy o greu trydan o gymharu â dewisiadau amgen adnewyddadwy gwirioneddol.

Niwclear

Cred Cyfeillion y Ddaear Cymru bod yr anfanteision amgylcheddol, economaidd ac o ran diogelwch sy'n gysylltiedig â phŵer niwclear yn golygu na ellir cyfiawnhau adeiladu gorsafoedd newydd.

Byddai adeiladu gorsafoedd niwclear newydd hefyd yn dargyfeirio adnoddau prin a sylw gwleidyddol oddi wrth yr atebion, megis ynni effeithlon ac adnewyddadwy, y gellid eu datblygu yn gynt ac yn rhatach.

Rydym yn siomedig ynglŷn â thro pedol polisi Llywodraeth Cymru ynglŷn â chefnogi gorsaf bŵer niwclear newydd yn Wylfa ar Ynys Môn, a byddwn yn parhau i ymgyrchu yn erbyn unrhyw osodiadau pŵer niwclear newydd yng Nghymru.

Eisiau sicrhau newidCymrwch Rhan neu Rhoddwch i ni