Pyllau glo brig ar fin ebargofiant

Published: 27 Apr 2016

Mae’r cyhoeddiad wythnos yma ynghylch israddio pwerdy glo Aberddawan yn golygu bod pob pwll glo brig yng Nghymru ar fin ebargofiant, yn ôl Cyfeillion y Ddaear Cymru. Datgelodd yr ymgyrchwyr amgylcheddol mewn adroddiad a gyhoeddwyd yn gynharach eleni fod cysylltiad annatod rhwng y pwerdy a phyllau glo brig yng Nghymru.

Nawr maent yn codi pryderon na fydd digon o arian ar gael i adfer y safleoedd yma pan fyddant yn cau - all ddigwydd o fewn yr wythnosau neu fisoedd nesaf.

Meddai Gareth Clubb, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:

“Mae hwn wedi troi’n hunllef i byllau glo brig yng Nghymru. Mae ymrwymiad pwerdy Aberddawan i losgi llawer yn llai o lo - a chanran yn uwch o hynny o dramor - yn golygu difodiaeth i fodel busnes y pyllau glo. Mae’n golygu bod y diwydiant brwnt, llygredig yma ar fin ebargofiant.  

“Gyda dyfodol mor lwyd i’r diwydiant glo brig, disgwylwn weld ton o gwmniau yn cwympo i ddwylo’r gweinyddwyr mewn byr o dro - o fewn yr wythnosau neu misoedd nesaf.

“Ond gwyddwn o achosion llys - er mawr galar i drigolion Margam - nid yw’r anghyfreithlon i gymryd asedau’r pyllau, hala’r elw i’r British Virgin Islands, a gadael y nesaf peth i ddim ar ôl i adfer y safleon. Felly mae’n hanfodol bwysig i Lywodraeth Cymru sicrhau bod cyllid digonol i adfer y safleon wedi’u cloi gydag awdurdodau cyhoeddus”.

Share this page