Yn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, dywedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru ac aelod o’r Grwp Cyfeirio Arbenigol ar Newid Hinsawdd;
‘Mae adroddiad blynyddol cyntaf y pwyllgor yn rybudd i’r llywodraeth gyfan ac i bawb yng Nghymru - dydyn ni ddim yn gwneud digon i daclo newid hinsawdd ac mae angen gweithredu sylweddol ar frys.
Mae’r adroddiad yma yn dangos gwerth asesu yn rheolaidd y cynnydd rydyn ni’n ei wneud ar dorri allyriadau. Mae’n rhoi cyfle i graffu ar weithredoedd Llywodraeth Cymru, cael trafodaeth agored am raddfa’r newid sydd ei angen i daclo newid hinsawdd a beth sydd angen i ni wneud.
Fe wnaeth Deddf yr Amgylchedd osod system newydd i daclo newid hinsawdd, felly mae angen i’r targedau a osodir gydfynd â chytundeb rhyngwladol Paris ar newid hinsawdd a’n dyletswydd i fod yn genedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Fe allwn ni greu dyfodol cynaliadwy carbon-isel i Gymru gyda’n gilydd - cael gwared ar danwyddau ffosil, dadgarboneiddio ynni a thrafnidiaeth, a galluogi pobl i fyw, gweithio a teithio yn iach mewn ffordd carbon-isel.’