Llythyr agored i Aelodau Cynulliad

­­Galw ar Aelodau’r Cynulliad i Ail-Egnïo Cymru

Heddiw, ar ran grŵp eang, mae’r Athro Emeritws Gareth Wyn Jones o Brifysgol Bangor wedi anfon llythyr agored at holl aelodau’r Cynulliad yn galw arnynt i fynd i’r afael â’r argyfwng amgylcheddol cyfredol sy’n deillio o gynhesu byd eang. Mae’r llythyr yn galw am bolisïau cadarn i leihau ein galw am ynni ac i ddatblygu ein adnoddau o ynni adnewyddadwy, a thrwy hynny ‘ail-egnïo’ ein cenedl.

Llofnodwyd y llythyr gan academyddion disglair a dwsinau o grwpiau amgylcheddol a chymunedol. Byrdwn y cais yw i bob Aelod Cynulliad i flaenoriaethu lleihau ein defnydd o ynni ym mhob polisi, menter newydd a chanllaw cynllunio ac i hybu y nod o gynhyrchu 100% o ynni Cymru yn adnewyddol. Yn ogystal, dylid ceisio sicrhau hunangynhaliaeth ynni i’r wlad erbyn 2035

Dywedodd yr Athro Emeritws Gareth Wyn Jones, ‘Y nod yw byw yn well ar lai. Mae datblygiadau sylweddol wedi digwydd ym maes technoleg ynni ac ynni adnewyddadwy yn benodol. Gellir goresgyn rhwystrau technegol bellach, ond mae’r diffyg ewyllys gwleidyddol ac economaidd yn rhwystro cynnydd. Mae cytundeb hinsawdd COP Paris, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Amgylchedd (Cymru) 2016 yn datgan yn glir beth yw'r gofynion ymarferol, cyfreithiol a moesol arnom: i warchod ein pobl, ein plant a'r cenedlaethau a ddaw yn wyneb yr argyfwng amgylcheddol sy'n dwysáu bob dydd.’

Mae’r llythyr yn galw ar bob Aelod Cynulliad i ymrwymo i ystyried, cefnogi, hyrwyddo a gweithredu polisiau sy’n hybu ein lles cymdethasol a chymunedol ac yn lleihau ein allyriadau o nwyon ty gwydr. Cred Gareth Wyn Jones a’r llofnodwyr eraill bod yr adnoddau naturiol, dynol a thechnogeol yng Nghymru i ni ddangos y ffordd i’r byd, ac mai nawr yw’r amser i blethu’r egwyddor i wead pob haenen o waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Prifysgol Bangor

Bangor

Annwyl Aelod Cynulliad,

Neges syml sydd gennym i chi – neges syml ond hynod bwysig. Yr ydym yn wynebu argyfwng amgylcheddol enfawr yn sgil ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr. Yn anffodus, mae'r wyddoniaeth yn gliriach na'r dydd. Felly, dim hel esgusodion a dim rhagfarnau di-sail, os gwelwch yn dda.

Mae ein cymdeithas bron yn gwbl ddibynnol ar danwydd ffosil. Ac eto mae yna gonsensws gwyddonol a phrofiad pobloedd llawer o wledydd y byd bod canlyniadau eu llosgi eisoes yn drychinebus ac y byddant yn y blynyddoedd i ddod yn gatastroffig. Mae holl gyfundrefnau cymdeithas sifig dan fygythiad.

Mae cytundeb hinsawdd COP Paris, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Amgylchedd (Cymru) 2016 yn datgan yn glir beth yw'r gofynion cyfreithiol a moesol arnom: i warchod ein pobl, ein plant a'r cenedlaethau a ddaw yn wyneb yr argyfwng hwn sy'n dwysáu pob dydd, mae'n rhaid i ni – i chi – weithredu yn awr.

Mae un strategaeth all gwrdd â'r sialensau hyn ac ailfywiogi economi Cymru yn y broses, sef blaenoriaethu lleihau defnydd ynni ym mhob polisi, menter newydd a chanllaw cynllunio ac anelu at gynhyrchu 100% o’n hynni o ffynonellau adnewyddadwy, amlhau i’r eithaf pob cyfle i sicrhau hunangynhaliaeth ynni erbyn 2035.

Roedd Adroddiad Pwyllgor Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd Senedd Cymru, ‘A Smarter Energy Future for Wales’, yn gam positif ac angenrheidiol ymlaen ond, o hepgor trafnidiaeth, mae'n anghyflawn.

Hoffem dynnu eich sylw at strategaeth gynhwysfawr trawsnewid polisi ynni Cymru o’r enw Ail-Egnïo Cymru, y mae’r Sefydliad Materion Cymreig wrthi ar hyn o bryd yn ei chynllunio a’i chostio. Mae'n gynllun uchelgeisiol a chymhleth ac mi fydd yn cyffwrdd bron pob agwedd o'n bywydau – ond mae’n bosibl ei weithredu.

Gellir goresgyn y rhwystrau technegol bellach, ond mae'r diffyg ewyllys gwleidyddol ac economaidd yn pwyso'n drwm. O oresgyn y rhain ac ailddychmygu ein perthynas ag ynni, fe gawn fudd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd dibendraw.

Mae gennym gyfle euraid ar hyn o bryd – cyfraddau llog isel, costau technolegau adnewyddadwy a'u technolegau cyswllt megis cronni trydan a gridiau clyfar yn gostwng, a cham wrth gam rydym yn ennill y pwerau datganoledig angenrheidiol i'w gweithredu.

Newid hinsawdd yw'r eliffant yng ngwaelod yr ardd – ac rydyn ni’n credu eich bod yn gwybod hynny yn eich calonnau. Nid yw cynnal y status quo yn opsiwn, ac mae'r llwybr y dylai Cymru ei ddilyn i fynd i'r afael â'r problemau yn agor yn glir o'n blaen.

Rhoddwyd i chi yn ddiweddar y cyfrifoldeb i arwain y wlad am y pum mlynedd nesaf a galwn arnoch i deilyngu ein ffydd ynoch ac wynebu'r cyfrifoldeb. Rhaid gadael y glo, yr olew a’r nwy yn y ddaear (ond cofier yr angen posib i gynhyrchu ynni wrth gefn sy’n gysylltiedig â chronni a storio carbon). Gadwch i ni ddilyn gwrs radical o ddadeni economaidd i Gymru ag ynni adnewyddadwy yn sail iddo.

Credwn fod dyfodol disglair yn bosibl i bobl Cymru. Gallai'r wlad hon arwain y byd ym myd technoleg ynni adnewyddadwy a sut i'w weithredu. Dim ond cwmpas ein dychymyg ein hunain sydd yn ein llyffetheirio.

Rhaid achub ar y cyfle tra gallwn ni.

Yn gywir,

Yr Athro Emeritus Gareth Wyn Jones et al

 

Signatories / Llofnodion

 

Yr Athro Emeritus Gareth Wyn Jones, Bangor University

Yr Athro James Intriligator, Professor of Innovation and Consumer Psychology, Bangor

University

Dr Kelvin Mason, University of Liverpool, Climate Camp Cymru

Wyn Bowen Harries, Cyfarwyddwr, Cwmni Theatr Pendraw

Twm Elias, darlledwr, awdur, gwladwr

Yr Athrawes Judy Hutchings, School of Psychology, Bangor University

Yr Athro James Scourse, Professor of Marine Geology, Bangor University, and Director,

Climate Change Consortium of Wales

Yr Athro Gareth Ffowc Roberts FLSW, Bangor University

 

Cyfeillion y Ddaear Cymru

WWF Cymru

RSPB Cymru

Frack-Free Wales

RenewableUK Cymru

Ynni Cymunedol Cymru

Cynnal Cymru

 

Abergavenny Transition Town

Awel Aman Tawe

Cardiff Against Fracking Everywhere

Community Energy in Pembrokeshire CIC

Cydweithfa Egni Co-op

Cyfeillion y Ddaear Abergavenny and Crickhowell

Cyfeillion y Ddaear Aberystwyth

Cyfeillion y Ddaear Barry and the Vale of Glamorgan

Cyfeillion y Ddaear Môn a Gwynedd

Cyfeillion y Ddaear Swansea

Cyfeillion y Ddaear Torfaen

Datblygiadau Egni Gwledig

Frack Free West Wales

Frack-Free Llantrisant

Gower Power Co-op CIC

Hydrolite Ltd

Keep Your Fracking Hands Off Neath Port Talbot

Llanharan Anti-Frackers

Llantrithyd Villagers Against Drilling

PLAN Brecon

Robert Owen Community Banking

Rounded Developments Enterprises

Severn Wye Energy Agency

Sharenergy

Sustainable Wick Community Group

TGVHydro Ltd

The Environmental Network for Pembrokeshire

The Green Valleys (Wales) CIC

The Vale Says No! (Vale of Glamorgan)

Transition Bro Gwaun

Transition Monmouth

Ynni Padarn Peris

 

Deiseb 38 Degrees: 526 llofnod hyd yn hyn. Seiliwyd y llythyr hon ar destun y ddeiseb.

https://you.38degrees.org.uk/petitions/energise-wales-move-to-100-renewable-energy-in-20-years/         

Rhanwch yr tudalen hwn

Tumblr Facebook Twitter Email Addthis
Eisiau sicrhau newidCymrwch Rhan neu Rhoddwch i ni