Datblygu cynghreiriau lleol

Published: 1 Mar 2021

Yn y canllaw hwn, byddwn ni’n esbonio sut i ganfod cynghreiriaid posib y gallech gydweithio â nhw ar eich ymgyrchoedd, ac yn rhoi awgrymiadau a phecynnau cymorth ar gyfer mynd ati i ddatblygu perthynas â’r cynghreiriaid hyn. Po fwyaf y byddwn yn cydweithio, y cryfaf fydd ein hymgyrchu a bydd yn cael mwy o effaith. Daw buddugoliaethau mawr pan fydd grwpiau amrywiol o bobl yn dod ynghyd i ffurfio grym.

Mae grwpiau Gweithredu ar yr Hinsawdd a grwpiau lleol Cyfeillion y Ddaear wedi cyflawni pethau anhygoel trwy weithio mewn cynghreiriau cryfion ar draws eu cymunedau. Bydd angen i ni barhau i gydweithio er mwyn cyflawni newid ar y raddfa sydd ei hangen i osgoi argyfyngau hinsawdd ac ecolegol. 

Mae etholiadau mis Mai 2021 yn rhoi cyfle perffaith i weithio gyda chynghreiriaid lleol. O gynnal hystings ar y cyd i gyd-drefnu lobïo ymgeiswyr etholiad, mae eich grym yn dod o ddangos nad un llais bach unig ydych chi. Bydd ymgeiswyr yn llawer mwy tebygol o wrando arnoch chi os gallan nhw weld eich bod yn cynrychioli ystod amrywiol o grwpiau a lleisiau. 

Cyn i ni ystyried sut i ddechrau datblygu cynghreiriau, mae ambell beth i’w hystyried. 

  • Mae angen amser a llawer o waith i weithio mewn cynghreiriau – rhaid ystyried mwy nag anghenion, amcanion ac amserlenni eich grŵp eich hun. Gall fod yn gymhleth ac yn heriol weithiau, ond mae’r enillion a’r grym y byddwn yn ei ddatblygu yn werth yr ymdrech. 

  • Ni fydd pob mater y byddwch yn gweithio arnynt yn apelio at bob grŵp. Ond po fwyaf y byddwn ni’n sylweddoli bod brwydrau yn gydgysylltiedig ac yn cydnabod yr achosion systemig sy’n sail i gymaint ohonynt, y mwyaf tebygol fyddwn ni o ganfod tir cyffredin ac atebion cyffredin. 

  • Cynhwyswch gymaint o bobl ag y bo modd yn yr ymarferion cynllunio y byddwn ni’n eu cyflwyno yn y canllaw hwn. 

  • Po fwyaf o wybodaeth ac amrywiaeth profiadau sydd yn yr ystafell wrth gynllunio, y mwyaf tebygol yw hi y bydd y canlyniadau yn rhai sydd â mwy o hyd a lled a dyfnder ar draws eich cymuned. 

  • Sut gallwch chi fod yn gynghreiriad da i eraill? Ydy’r capasiti a’r adnoddau gennych i gefnogi ymgyrchoedd eraill? Fyddwch chi’n ystyried gwneud hyn hyd yn oed os nad yw’n amlwg sut bydd eich ymgyrch eich hun yn elwa? Byddwn ni’n trafod hyn ymhellach yn yr adran ddiweddarach yn y canllaw ar gydsefyll a chynghreirio ystyrlon. 

 

Sut i ganfod cynghreiriaid 

Er mwyn datblygu rhwydwaith o grwpiau y gallwch gydweithio â nhw, mae angen dealltwriaeth dda o’ch cyd-destun lleol, o’r hyn y mae crewyr newid eraill yn ei wneud ac o bwy sy’n dylanwadu ar bwy a sut. 

Ceir nifer o ymarferion mapio sy’n gallu ein helpu ni i ddod i ddeall hyn oll: mapio cymunedol, mapio mudiadau a mapio dylanwad. 

 

Mapio cymunedol 

Ceir nifer o ffyrdd gwahanol o wneud hyn, ond man cychwyn da ydy gosod pobl a grwpiau ar fap: tynnwch 4 cylch consentrig a mapiwch bobl, sefydliadau a grwpiau rydych chi’n eu hadnabod ar y cylchoedd. Y rhai sydd â’r berthynas agosaf â chi sy’n mynd agosaf at y canol. Gallai edrych yn debyg i hyn: 

Community mapping for Climate Action groups 

Peidiwch â bodloni ar roi grwpiau o bobl rydych chi’n eu hadnabod yn dda yn unig yno. Y syniad ydy cynnwys cymaint o’ch cymuned ag y gallwch. Gwiriwch eto – ydych chi wedi cynnwys pawb? 

Rydych chi mewn sefyllfa nawr i allu gweld yr holl ddarpar gynghreiriaid yn eich cymuned. Efallai y bydd gan rai fwy o ddylanwad dros y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn eich ymgyrch, bydd rhai eraill mewn lle da i allu dylanwadu ar farn y cyhoedd yn eich cymuned, gallai rhai gydweddu’n naturiol â’r hyn rydych chi’n ceisio’i gyflawni. 

Yn ogystal â helpu i fapio pwy sydd yn eich cymuned, mae’r ymarfer hwn yn helpu i roi goleuni ar y mannau lle gall fod bylchau yn eich dealltwriaeth o’r gymuned, neu yn y gefnogaeth a’r gwasanaethau a ddarperir. 

Bydd mapio cymunedol yn gwneud mwy na’ch helpu i adnabod gyda phwy y gallech chi gydweithio, bydd yn helpu hefyd i ganfod pethau defnyddiol eraill am eich cymuned a fydd o gymorth i’ch ymgyrchu. 

Mapio mudiadau 

Yn ogystal â mapio’r gymuned yn ehangach, mae’n bwysig deall pwy sy’n gweithio tuag at newid cymdeithasol yn eich ardal chi. Gelwir hyn yn fapio mudiadau, ac mae’n golygu cael ychydig mwy o fanylion am grwpiau ymgyrchu lleol. Ceir enghraifft isod o sut y gallai map mudiadau edrych, ond gallech chi ail-greu’r map cylchoedd uchod ond ar gyfer grwpiau ac ymgyrchoedd yn benodol (nodwch mai manylion ffug ydy’r rhai isod!) 

 

Movement mapping table 

Dylai map mudiadau eich helpu i ddeall pwy sy’n gweithio ar beth yn eich cymuned, pa dactegau maen nhw’n eu defnyddio, ar bwy maen nhw’n ceisio dylanwadu a sut maen nhw’n trefnu eu hunain. Yn allweddol, gall map mudiadau ddangos cynghreiriau sy’n bodoli eisoes yn eich cymuned. A oes unrhyw rwydweithiau sy’n bodoli eisoes y gallwch gydweithio â nhw? 

Gall mapio cymunedol a mapio mudiadau eich helpu i nodi grwpiau o bobl a chynghreiriaid posib y gallech gydweithio â nhw. Ond sut gallwch chi flaenoriaethu’r rhai y dylech gysylltu â nhw? Dyma ble gallai map dylanwad fod yn ddefnyddiol. 

 

Mapio dylanwad 

Meddyliwch am nodau eich ymgyrch. Nawr meddyliwch am grŵp yn eich cymuned. 

  • Pa mor gydnaws ydyn nhw â’ch nodau chi? 

  • Pa mor gefnogol maen nhw’n debygol o fod? 

  • Faint o ddylanwad sydd ganddynt yn lleol? 

  • Os ydy’ch ymgyrch yn golygu cael dylanwad ar rai sy’n gwneud penderfyniadau, faint o ddylanwad fyddan nhw’n ei gael ar y bobl hynny? 

Nawr, plotiwch nhw ar y graff isod yn ddibynnol ar ba mor gydnaws a pha mor ddylanwadol ydyn nhw. 

  • Y mwyaf cydnaws a’r mwyaf dylanwadol 

  • Y lleiaf cydnaws a’r lleiaf dylanwadol 

  • Y lleiaf cydnaws ond y mwyaf dylanwadol 

  • Y mwyaf cydnaws ond y lleiaf dylanwadol 

Influence mapping graph 

Nid yw’n wyddor union gywir a bydd tinciau na fyddwch chi’n gallu cydio ynddynt yn iawn – ond bydd hyn yn eich helpu i weld yn fras pwy fydd fwyaf cydnaws a mwyaf dylanwadol yn eich ymgyrch. Dechreuwch trwy gysylltu â’r rhai sydd fwyaf cydnaws â’ch ymgyrch ac a fydd â’r mwyaf o ddylanwad. 

Peidiwch ag anghofio’r lleill sydd ar y map – sut gallwch chi ddenu’r rhai sy’n llai cydnaws i ddod yn agosach at eich nodau? Sut gallwch chi helpu i gynyddu grym a dylanwad y rhai sy’n gydnaws ond sydd heb fawr o ddylanwad ar y rhai sy’n gwneud y penderfyniadau? 

Byddwch yn ymwybodol o’r dull uchod – beth mae datblygu cynghreiriau gyda’r rhai sydd fwyaf cydnaws a mwyaf dylanwadol yn ei olygu? Mae’n debygol y bydd hyn yn golygu y byddwch chi’n creu rhwydwaith o grwpiau sy’n edrych ac yn swnio fel chi, sydd â mwy o ddylanwad yn hanesyddol o bosib. Byddwch yn ofalus o’r ddeinameg hon, ac ystyriwch hefyd sut byddwch chi’n buddsoddi mewn perthnasoedd newydd sy’n creu rhwydwaith ehangach a mwy cynrychioladol. Ydych chi’n gallu trefnu eich hun mewn ffordd sy’n ceisio rhannu dylanwad a grym gyda rhai sydd â llai? 

 

Dulliau o ddatblygu perthnasoedd 

Felly, rydyn ni wedi canfod y rhai rydyn ni eisiau cydweithio â nhw, ond sut ydyn ni’n mynd ati i ddatblygu perthynas â nhw? 

Does dim un dull sy’n addas at bob achos o ran creu cysylltiad. Efallai na fydd rhywbeth sy’n gweithio ar gyfer un berthynas yn gwneud y tro ar gyfer un arall. Ond mae ambell egwyddor allweddol i’w cadw mewn cof: 

  • Ceisiwch sicrhau bod gennych bwynt cyswllt cyson er mwyn helpu i ddatblygu perthynas ag ymddiriedaeth. 

  • Canfyddwch sut mae’r grŵp yn trefnu ei hun: pryd maen nhw’n cyfarfod? Pa strwythur sydd iddyn nhw? Mae cael gwybod hyn yn golygu y gallwch chi weithio yn ôl eu trefniadau nhw, nid eich rhai chi yn unig. 

  • Canfyddwch a oes dull maen nhw’n ei ffafrio o greu a chynnal cysylltiad – efallai bod ganddynt ffurflen gysylltu ar eu gwefan, neu fod disgwyl i bobl ddod i gyfarfodydd. 

  • Rhowch yr amser i ddod i wybod pethau amdanynt. Ar beth maen nhw wedi gweithio? Beth yw eu llwyddiannau a’u heriau? Beth sy’n eu cymell? Bydd hyn yn eich helpu i ddeall sut gallech chi gefnogi eich gilydd. 

  • Fydd pawb ddim yn gweithio i’r un amserlen â chi, deallwch y pwysau a’r cyfyngiadau sydd ar grwpiau eraill a chydnabyddwch y bydd rhaid i chi weithio yn ôl eu hamserlenni nhw. 

  • A oes unrhyw beth o ran deinameg grym i’w ystyried? Er enghraifft, a oes gan eich grŵp chi fwy o adnoddau a chapasiti? Ydy hi’n bosib bod eich grŵp chi wedi cael mwy o ddylanwad yn hanesyddol oherwydd ei nodweddion economaidd-gymdeithasol? Mae ymwybyddiaeth o rym a breintiau yn allweddol, nid yn unig ar gyfer sicrhau eich bod yn meithrin arferion cynhwysol o fewn eich grŵp eich hun, ond ar gyfer gwneud hynny trwy’ch perthynas ag eraill hefyd. 

  • Dydy dod allan yn syth a gofyn iddyn nhw gefnogi eich ymgyrch chi ddim yn mynd i lawr yn dda bob amser, yn enwedig os ydych chi’n rhoi’r argraff mai’r unig ddiddordeb sydd gennych mewn cydweithio ydy pan fydd hynny’n bodloni gofynion eich ymgyrch eich hun. Byddwch yn agored ac yn onest ynglŷn â’ch bwriadon a’ch nodau – ond canfyddwch ffyrdd y gallwch gefnogi eu gwaith nhw yn ogystal â’ch gwaith eich hun. Efallai bod nod cyffredin a allai fod yn ganolbwynt i’ch cydweithio i ddechrau? 

  • Dangoswch barch tuag at y gwaith maen nhw wedi’i wneud o’r blaen. Efallai y bydd rhai grwpiau wedi bod yn trefnu ers degawd, a rhai eraill yn newydd iawn, ond mae pob un yn dod â phrofiadau a dealltwriaeth y dylid eu parchu a’u gwerthfawrogi. 

 

Byddwch yn hael i fudiadau 

Mae sylweddoli ein bod i gyd yn brwydro dros yr un byd teg a chyfiawn yn golygu gweithio mewn ffordd sy’n cefnogi ac yn grymuso’r rhai sydd o’n cwmpas. Mae hyn yn golygu: 

  • bod yn gydweithredol ac yn gefnogol 

  • rhannu gwersi a ddysgir, adnoddau, sgiliau, amser a chyfleoedd 

  • cydnabod llwyddiannau pobl eraill a chreu lle iddynt ffynnu – mewn geiriau eraill, bod â dealltwriaeth dda o’n lle yn y mudiad ehangach, a gallu camu’n ôl pan fo angen. 

Sicrhewch eich bod yn meddwl yn ofalus sut gallai’ch gweithgareddau ymgyrchu gael effaith ar eraill. Ydych chi wedi meddwl am holl ganlyniadau posib eich gweithgareddau? A oes unrhyw ganlyniad anfwriadol nad ydych wedi’i ystyried? Sut gallai’r hyn rydych chi’n ei wneud gael effaith ar ymgyrchoedd eraill yn eich ardal? Mae’r rhain i gyd yn gwestiynau pwysig i’w gofyn er mwyn sicrhau eich bod yn gweithio mewn ffordd sy’n osgoi creu niwed i grwpiau eraill lleol, hyd yn oed yn anfwriadol. 

 

Cynghreirio ystyrlon a chydsefyll 

Ceisiwch ystyried eich gwaith mewn ffordd rhyngblethol – hynny yw, gan ddeall sut mae brwydrau’n gydgysylltiedig. Nid yw’r ffaith nad yw rhywbeth yn “ffitio” yn amlwg fel mater amgylcheddol yn golygu nad oes cysylltiadau pwysig neu nad yw’n werth ei gefnogi. Er enghraifft, mae materion hil a hinsawdd yn rhyngblethu. Mae pobl ddu a brown yn teimlo effaith chwalfa’r hinsawdd yn  anghymesur, ac oherwydd y gwahaniaethu a’r anghyfiawnder sydd ohoni, maen nhw hefyd yn llai tebygol o fod â’r gwytnwch ariannol a materol i allu ymdopi ag effaith chwalfa’r hinsawdd. I weld mwy am hyn, darllenwch ein rhestr ddarllen ar hil a hinsawdd 

Er mwyn cydsefyll, mae angen i chi fuddsoddi eich adnoddau a’ch capasiti eich hun i gefnogi brwydrau eraill. Mae cynghreirio ystyrlon yn golygu gwneud hynny heb ddisgwyl y bydd y gefnogaeth honno’n cael ei thalu’n ôl. 

Gwrandewch ar sut y byddai eraill yn dymuno i chi eu cefnogi. Beth sy’n mynd i wneud gwir wahaniaeth? Efallai nad gweithredoedd amlwg cyhoeddus (sy’n ennill mwy o ddilynwyr i chi ar y cyfryngau cymdeithasol) sydd eisiau, ond pethau y tu ôl i’r llenni nad oes neb yn gwybod eich bod yn eu gwneud, fel rhannu gwybodaeth neu roi benthyg offer ar gyfer gweithredoedd. Ceisiwch osgoi “cynghreirio perfformiadol” – sy’n cynnwys gweithredoedd tocenistaidd nad ydynt yn gwneud fawr ddim i gefnogi achos o ddifrif. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys “hoffi” cynnwys ar-lein pan fydd rhywbeth yn cael llawer o sylw yn y wasg, ond peidio â chefnogi ar adegau eraill neu mewn ffyrdd mwy ymarferol. 

 

Darllen pellach 

Share this page