Cymru yn cwympo ymhellach tu ôl Yr Alban yn y ras ynni adnewyddadwy

Published: 6 Apr 2016

[CC Adrian Kingsley Hughes]

Mae ffigyrau ynni adnewyddadwy 2015 newydd eu cyhoeddi. Mae'n tynnu dŵr i'r dannedd ar ran Yr Alban, a gynhyrchodd 22 GWh o drydan adnewyddadwy, sef 58% o ddefnydd y wlad honno o drydan.

Ond mae'n hen dro i ni'r Cymry. Ond 5.1 GWh o drydan adnewyddadwy a gynhyrchwyd yn 2015.

Yn 2015, cynhyrchodd Yr Alban 13 GWh yn fwy o drydan gwyrdd nag a wnaethpwyd yn 2008. A Chymru? Tamaid dros 3 GWh.

Beth sy'n gwneud Cymru mor wael o ran cynhyrchu trydan adnewyddadwy?

Diffyg pwerau yw rhan o'r broblem. Mae'r esboniad llawn yn ein hymateb i ymgynghoriad Comisiwn Silk. Ond yn fras:

  • Mae Cymru wedi colli mas yn y ras i fod yn gyntaf o blith gwledydd sy'n arwain ym maes ynni adnewyddadwy, a hynny oherwydd nad oedd y pwerau gan Gymru i ddatblygu'r diwydiant.

  • Mae'n fwy cymhleth i ddatblygwyr ynni adnewyddadwy yng Nghymru nag ydyw yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Does 'na rheswm da dros y cymhlethdod yma. 

  • Bu'r diffyg pwerau cynllunio a chaniatau'n golygu bod polisi ynni yn ddi-bwrpas, bron, yng Nghymru. Mae dyfodiad Rheoleiddiadau newydd i rym ar 1 Mawrth 2016 yn golygu bod pob pwerau dros ynni gwynt ar y tir nawr gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru

  • Oherwydd brwdfrydedd San Steffan ganiatau pwerdai tanwydd ffosil yng Nghymru - a phallu cau rhai sy'n bodoli - mae Cymru yn fwy dibynnol ar danwyddau ffosil na'r un rhan o wledydd Prydain. Swyddi'r gorffennol ydy'r swyddi yn y diwydiannau pwer ffosil. 

  • Mae pwerau dros y grid trydan gyda San Steffan - mae'r rheiny yn feto gweithredol o bwerau Cymru.

Ond rhan arall y broblem yw methiant hanesyddol Llywodraeth Cymru i gefnogi ynni adnewyddadwy'n ddiamwys. Mae polisi ynni Llywodraeth Cymru yn crybwyll ynni gwynt ar y tir ond 5 gwaith. Mae ynni niwclear - gyda siawns bychan os o gwbl o ddigwydd yng Nghymru - yn hawlio 19 o sylwadau. 

A pholisi cyfredol Llywodraeth Cymru yw mai "ffin eithaf" yw'r uchelgais a amlinellwyd yn TAN 8 o ran datblygiadau ynni gwynt yng Nghymru. Cadarnhaodd Gweinidog Amgylchedd y pryd, John Griffiths, hynny mewn digwyddiad ynni gwynt ar 30 Ionawr 2013. 

Y diffyg cefnogaeth o ran ynni gwynt ar y tir a achosodd ffrwgwd canolbarth Cymru. Heb neb yn Llywodraeth Cymru i eirioli ar ran ynni gwynt, datblygodd lleisiau croch yn erbyn ynni adnewyddadwy, mewn ymgyrch hunan-niweidiol ym Mhowys. 

Yn ogystal, mae'r diwydiant ynni adnewyddadwy yn Yr Alban yn gwybod nad yw'n cystadlu yn erbyn niwclear am fod yn rhan o ddyfodol isel-carbon y wlad. Wrth gefnogi atomfa newydd, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud bywyd yn anoddach i ynni adnewyddadwy yng Nghymru.

Mae newidiadau gwleidyddol a pholisi drws nesaf wedi gweld newid agwedd yn Llywodraeth Cymru, sy'n llawer mwy cefnogol o ynni adnewyddadwy ers mis Mai 2015. Ai dyma sy'n gyfrifol am y cynnydd a welwyd mewn cynhyrchiant ynni adnewyddadwy yn 2015?

Ac a fydd y pwerau newydd dros ynni gwynt ar y tir yn helpu gosod Cymru ymhlith gwledydd y byd sy'n arloesi a sy'n blaenoriaethu'r dyfodol?

Gareth Clubb yw Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru

Share this page