Cyhoeddi strategaeth Mwy nag Ailgylchu - ein hymateb

Published: 5 Mar 2021

Mae'r strategaeth i greu economi gylchol 'Mwy nag Ailgylchu', a gyhoeddwyd heddiw (2 Mawrth 2021), yn cynnwys llond gwlad o fesurau cadarnhaol gan gynnwys moratoriwm ar losgwyr newydd.

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi croesawu'n frwd strategaeth newydd Llywodraeth Cymru Mwy nag Ailgylchu i greu economi gylchol.

 

Mae'r strategaeth hon yn cynnwys llond gwlad o fesurau cadarnhaol a da iawn, gan gynnwys gwahardd rhai plastigion untro, cyflwyno costau newydd ar bethau fel cwpanau coffi untro, cefnogi siopau diwastraff a chynlluniau benthyca ac ailddefnyddio i adfywio canol trefi a chynyddu cyfraddau ailgylchu.

 

Mae cynlluniau hefyd i gynyddu gweithredu dros wastraff bwyd, cynyddu cyfranogiad y gymuned, cyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes ac ymrwymiad i wneud gweithgynhyrchwyr yn gyfrifol am eu cynnyrch eu hunain ar ddiwedd eu hoes (Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr Estynedig).

Dywedodd y llefarydd ar ran Cyfeillion y Ddaear Cymru, Bleddyn Lake:

"Mae'r strategaeth newydd hon yn un gynhwysfawr a chadarnhaol iawn a fydd yn arwain at newid mawr yn y ffordd rydym yn meddwl am gynnyrch a delio â gwastraff yng Nghymru.
"Mae ymgorffori cynlluniau benthyca ac ailddefnyddio wrth adfywio canol trefi yn fenter flaengar ac mae blaenoriaethu'r defnydd o ddeunyddiau cynaliadwy a charbon isel yn y diwydiant adeiladu yn gam mawr ymlaen yng Nghymru.
"Rydym yn arbennig o hapus gyda'r newyddion y bydd moratoriwm ar losgwyr newydd yng Nghymru. Mae hyn yn gyhoeddiad calonogol iawn a fydd hefyd, gobeithio, yn gweld y cynlluniau ar gyfer y llosgydd newydd, anferth yn hen bwerdy B Aber-wysg yng Nghasnewydd yn mynd i'r gwellt.

"Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru a grwpiau cymunedol ledled Cymru wedi bod yn ymgyrchu ers amser maith yn erbyn llosgwyr ac mae'r newyddion yma heddiw yn cadarnhau, o'r diwedd, ein bod ni yng Nghymru yn awr ar daith i leihau ein gwastraff a delio ag ef, heb droi at ei losgi. 
"Dyma fuddugoliaeth i gymunedau sy'n cael eu bygwth gan losgwyr, buddugoliaeth i Gymru ac i'n planed."

Share this page