Bleddyn Lake

 

Mae Bleddyn wedi bod yn gweithio i Gyfeillion y Ddaear Cymru ers 2000. 

Astudiodd Bioleg Forol ac Eigioneg (BSc) ym Mhrifysgol Bangor a Rheolaeth Cadwraeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Morgannwg (MSc).

Mae'n gweithio fel ymgyrchydd a chyn hynny fel swyddog datblygu cymunedol ac mae wedi gweithio ar ymgyrchoedd llwyddiannus megis Cynllun Gweithredu ar gyfer Pryfed Peillio Llywodraeth Cymru, y cynllun Caru Gwenyn,  Deddf Newid Hinsawdd y DU, ffracio a thâl bagiau plastig.

Mae gan Bleddyn 2 o ferched ac mae'n gefnogwr brwd y Sgarlets ac yn cyfaddef ei fod yn anorac rygbi!

Share this page