Ble mae'n moratoriwm ar byllau glo brig?

Published: 21 Apr 2016

Ble mae’n moratoriwm ar byllau glo brig?

Mae grŵp amgylcheddol wedi nodi Dydd y Ddaear 2016 - penblwydd pleidlais o blaid gwaharddiad glo brig newydd yng Nghymru - trwy ofyn: Ble mae’n moratoriwm?

Ar 22 Ebrill 2015, bu pleidlais unfrydol dros “annog moratoriwm ar gloddio glo brig ledled Cymru”. Ond bu dim cynnydd ar y pwnc ers hynny - ar wahan i ‘uwchgynhadledd glo’ yng Nghorffennaf 2015.

Meddai Gareth Clubb, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:

“Roedd ein gobeithion yn uchel y bydde Llywodraeth Cymru yn parchu ewyllys democrataidd pobl Cymru fel y mynegwyd trwy bleidlais yn y Senedd. Ond cafwyd dim oll fel canlyniad i benderfyniad arloesol Aelodau Cynulliad.

“Mae cymunedau wedi cael llond bol o byllau glo brwnt, llygredig ar stepen eu drws. Mae trethdalwyr yn ddig oherwydd y costau anferthol y byddwn oll yn eu talu oherwydd methiant y diwydiant glo i adfer eu safleoedd. A mae pleidleiswyr Cymru mewn penbleth ynghylch canlyniad y pleidlais unfrydol yn erbyn pyllau glo brig.

“Mae’r cwestiwn i Lywodraeth Cymru yn syml iawn.

“Ble mae’n moratoriwm ar byllau glo brig?”

 

Share this page